BSc mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang
Mae ein byd yn wynebu nifer cynyddol o heriau byd-eang dybryd y mae angen dyfeisgarwch, dyfalbarhad a chydweithredu i fynd i'r afael â nhw. Mae angen arnom ragor o bobl â'r uchelgais i ymdrin â'r heriau hyn, yr arbenigedd i fynd i'r afael â nhw, a'r gallu i feithrin y rhinweddau personol a fydd yn sicrhau llwyddiant mewn gwasanaeth cyhoeddus, lle bynnag a sut bynnag maent yn dewis gwasanaethu.
Mae'r rhaglen Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang yn radd drawsddisgyblaethol gyffrous a gynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i ddatblygu'r sgiliau personol a phroffesiynol, yr wybodaeth ddisgyblaethol a'r arfau deallusol i allu ysgogi newid a gwneud gwahaniaeth yn y byd o'u cwmpas.
Mae strwythur y radd tair blynedd yn seiliedig ar thema drosfwaol a thrawsbynciol, "Heriau Byd-eang", sy'n archwilio materion hollbwysig megis newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy, mudo, terfysgaeth, anghydraddoldeb a thlodi a sut maent yn effeithio ar y byd lle'r ydym yn byw.
Mae'n cyfuno amrywiaeth o ddisgyblaethau, megis damcaniaeth wleidyddol, astudiaethau datblygu, polisi cyhoeddus, y gyfraith, rheoli a'r cyfryngau, er mwyn hwyluso dealltwriaeth gynhwysfawr o faterion byd-eang hollbwysig a'r systemau a’r strwythurau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd y mae'r byd yn gweithredu ar eu sail a sut gellir harneisio'r rhain er mwyn newid.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae newid yn digwydd, sut i nodi'r ffactorau sy'n hanfodol i lwyddiant, a sut i ddatblygu'r sgiliau, y priodweddau a'r wybodaeth angenrheidiol i ddod yn weision cyhoeddus entrepreneuraidd.
Gan ganolbwyntio ar sgiliau arweinyddiaeth ac entrepreneuriaeth, caiff y myfyrwyr eu grymuso i ddatblygu a hyrwyddo atebion arloesol a chynaliadwy a allai achub bywydau.
Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i roi dysgu ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol drwy leoliadau gwaith gyda chyrff llywodraethol, elusennau a sefydliadau anllywodraethol. Un o brif nodweddion y radd yw rhaglen o ymweliadau â sefydliadau yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Cyngres yr UD a'r Cenhedloedd Unedig.
Ewch i Dudalen y Cwrs