Ymunwch Â'n Cymuned

Mae gan ein cydweithrediadau gyrhaeddiad byd-eang a chyda'n gilydd gallwn helpu i wneud y byd yn lle gwell.

Rydym yn croesawu cefnogaeth partneriaid o'r un anian sydd yr un mor ymrwymedig â ni i oresgyn yr heriau sy'n effeithio arnom ni i gyd, ac sy'n gallu ein helpu i gynyddu cyrhaeddiad a graddfa y rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton.

Efallai y gallwch gynnig lleoliad gwaith neu interniaeth i'n myfyrwyr, cyfrannu at eu mentora a'u hyfforddiant, neu fod yn rhan o'n cyfres o ddarlithoedd arweinyddiaeth.

Efallai fod gennych brosiectau penodol y gall ein myfyrwyr neu ein cydweithwyr academaidd gynorthwyo gyda nhw.

Neu efallai y gallech ystyried cefnogi ein hymchwil er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth gyda'n gilydd.

Sut bynnag rydych chi'n meddwl y gallech ein helpu, cysylltwch â ni i ddysgu rhagor am ein gwaith a'n huchelgeisiau.