Y Rhaglen MA Mewn Heriau Byd-Eang: Y Gyfraith, Polisi ac Ymarfer

Mae’r Radd Meistr mewn Heriau Byd-eang: Y Gyfraith, Polisi ac Ymarfer yn rhaglen un flwyddyn a gynlluniwyd i gyfuno rhagoriaeth academaidd ag ymagwedd greadigol â phwyslais ar weithredu at gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth. Ei nod yw datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr neilltuol sy'n craffu ar y gorwel ac yn canolbwyntio ar faterion pwysig y byd ym maes ysgolheictod cyfreithiol, gweithrediaeth ac ymarfer.

Mae ein hysgolheigion yn astudio rhaglen bwrpasol sy'n eu galluogi i feithrin sgiliau ymchwil ac eiriolaeth effeithiol, ynghyd ag arbenigedd academaidd yn eu dewis maes. Mae lleoliad gwaith gyda sefydliad perthnasol yn elfen ganolog o'r rhaglen, gan sicrhau bod yr ysgolheigion yn cael profiad ymarferol a chyfle i gyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni newid trawsnewidiol yn y gyfraith ac mewn polisi.

Ar y rhaglen, bydd yr ysgolheigion yn datblygu'r canlynol:

  • ymwybyddiaeth gref o heriau byd-eang cyfredol o fewn fframwaith sy’n seiliedig ar hawliau
  • dealltwriaeth o rôl y gyfraith a pholisi wrth fynd i’r afael â heriau cenedlaethol a thrawswladol
  • y sgiliau i ymgymryd ag ymchwil effeithiol a datblygu atebion ymarferol a chreadigol a
  • phrofiad o eirioli ac ymgysylltu â rhandeiliaid i hwyluso'r broses o ddiwygio'r gyfraith a pholisi

Ochr yn ochr â'u rhaglenni gradd, mae'r ysgolheigion yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol sy'n cyd-fynd â nodau'r rhaglen i ddatblygu eu sgiliau a'u profiad ymhellach a gwella eu cyflogadwyedd.

Mae'r rhaglen wedi cael ei chefnogi'n hael gan Sky ers iddi gael ei lansio yn 2019.