Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Leonie Themelidis

Miss Leonie Themelidis

Tiwtor mewn Troseddeg
Criminology, Sociology and Social Policy
313A
Trydydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton

Trosolwg

Mae diddordebau ymchwil Leonie ym meysydd cam-drin rhywiol, troseddu rhywiol, ymddygiadau troseddol a seicopatheg, yn enwedig y triad tywyll. Yn ei hymchwil yn y gorffennol, mae hi wedi gweithio'n agos gydag adrannau eraill ar draws y Brifysgol fel yr Ysgol Reolaeth a'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu. 

Mae Leonie'n meddu ar MSc mewn Seicoleg Annormal a Chlinigol a chanolbwyntiodd ei thraethawd estynedig ar sadistiaeth. Mae hi'n mwynhau pontio disgyblaethau yn ei hymchwil, fel seicoleg a throseddeg yn ogystal â throseddeg ac ieithyddiaeth. 

Mae gwaith Leonie'n canolbwyntio'n agos ar ddiogelu plant a phobl ifanc ac mae hi wedi bod yn rhan o brosiectau'n ceisio cefnogi'r gwaith o greu fframweithiau diogelu ym maes addysg. Ar ben hynny, mae hi wedi ymchwilio i'r defnydd o iaith yng nghyd-destun cam-drin rhywiol ar-lein. 

Mae ymchwil ddiweddaraf Leonie'n canolbwyntio ar wirioneddau ymarferol gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda throseddwyr rhywiol benywaidd a'u dioddefwyr yn y system cyfiawnder troseddol. 

Meysydd Arbenigedd

  • Troseddau Rhywiol
  • Cam-drin Rhywiol
  • Ymddygiadau Troseddu
  • Seicopatheg
  • Nodweddion Personoliaethau Tywyll
  • Seicoleg Fforensig

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau addysgu Leonie'n cynnwys troseddau rhywiol a throseddu rhywiol yn ogystal â methodolegau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol.