Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
llun proffil o ella rabaiotti

Mrs Ella Rabaiotti

Darlithydd mewn Troseddeg, Criminology, Sociology and Social Policy

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987203

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Trosolwg

Mae Ella Rabaiotti yn Ddarlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe lle mae hefyd yn ymgymryd ag ymchwil i'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder cymdeithasol, yn ogystal â maes ehangach diogelwch cymunedol. Mae'n cynnull Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf Canolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru ac mae'n aelod o fwrdd Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol Prifysgol Abertawe.

Mae gan Ella dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes cyfiawnder troseddol a chymdeithasol, gan gynnwys sawl blwyddyn ar lefel uwch reolwr. Mae’n Swyddog Prawf cymwys, ac mae wedi gweithio ym maes cyfiawnder oedolion ac ieuenctid, ac wedi arwain ar brosiectau ymgysylltu â defnyddwyr, Rheoli Troseddwyr Integredig a Chyfiawnder Adferol.

Ella oedd Rheolwr cyntaf Cymru Crimestoppers, gan ysgrifennu a chynhyrchu ffilmiau atal troseddau a phecynnau addysg ar gyfer ei gynllun ieuenctid 'Fearless'. Ar ôl gwneud ymchwil gweithredu o fewn yr elusen, aeth ymlaen i sefydlu Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, cyn cyflwyno ei sgiliau a'i phrofiad i'r byd academaidd.

Cafodd ymdrechion Ella i gyd-ddatblygu elusen sy'n cael ei harwain gan ddefnyddwyr gwasanaeth ar gyfer cyn-droseddwyr i gynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd ei chydnabod yng Ngwobrau Arwain Cymru 2015.

Meysydd Arbenigedd

  • Y Gwasanaeth Prawf a Chyfiawnder Cymdeithasol
  • Adsefydlu ac ymatal rhag troseddu
  • Llais Defnyddwyr ac Ymgysylltu â Defnyddwyr
  • Diogelwch Cymunedol a Gweithio mewn Partneriaeth
  • Y Cyfryngau a throseddu
  • Iechyd cynhwysiant
  • Ymyriadau cyfiawnder cymdeithasol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Ella yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.

Addysgu, asesu a goruchwylio traethodau hir ym maes Troseddeg, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig Mae'r meysydd pwnc yn cynnwys Troseddeg, Troseddu a Chymdeithas, Atal Troseddu a Diogelwch Cymunedol, y Gwasanaeth Prawf, a'r Cyfryngau a Throseddu.

 

 

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau