Parc Singleton

Yr Athro Ryan Murphy

Penodi’r Deoniaid Gweithredol - Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Humanities and Social Sciences

Cyfeiriad ebost

203
Ail lawr
Technium Digidol
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Ryan â’r Brifysgol fel Athro Cysylltiol ym mis Mawrth 2019 a chafodd ei ddyrchafu i Athro y Gyfraith ym mis Mawrth 2021. Cyn hyn, fe oedd Deon Ysgol y Gyfraith Aston yn Birmingham a Darllenwr Addysg Gyfreithiol.

Yn Abertawe, mae Ryan yn Ddeon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor Interim yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ar hyn o bryd.

Mae Ryan yn awdurdod cydnabyddedig ar ddiwygio addysg gyfreithiol a bu’n gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Chymdeithas y Gyfraith ar ddiwygiadau i addysg a hyfforddiant ar bob cam – academaidd, cyn ac ôl-gymhwyso. Mae’n gweithredu fel adolygwr cymheiriaid ar gyfer The Law Teacher – sef cyfnodolyn addysg gyfreithiol blaenllaw – gan arbenigo mewn dysgu wedi’i gyfoethogi gan dechnoleg a dylunio’r cwricwlwm a bu’n aelod o Is-bwyllgor Addysg Cymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol.  Mae wedi gweithredu fel arbenigwr pwnc allanol ar nifer o ddilysiadau rhaglenni a bydd yn hapus i ymgymryd â mwy o’r rhain yn y dyfodol.

Yn 2020, cyhoeddodd Ryan werslyfr ar System Gyfreithiol Cymru a Lloegr ac mae ganddo ddiddordeb mewn ymagweddau cyfoes at addysgu hanfodion y gyfraith a sgiliau cyfreithiol. Mae wedi ennill sawl gwobr ac mae wrth ei fodd yn yr ystafell ddosbarth. Yn ogystal â systemau cyfreithiol, mae Ryan wedi addysgu Cyfraith yr UE a Chyfraith Gyhoeddus a Chyflogaeth. Mae’n estyn gwahoddiad cynnes i fyfyrwyr PhD posib yn y pynciau uchod, gan gynnwys y rhai hynny â diddordeb mewn addysg gyfreithiol.

Meysydd Arbenigedd

  • System Gyfreithiol Cymru a Lloegr
  • Addysg Gyfreithiol
  • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
  • Symud cyfalaf yn rhydd yn yr UE

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • System Gyfreithiol Cymru a Lloegr
  • Addysg Gyfreithiol
  • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
  • Symud cyfalaf yn rhydd yn yr UE
Prif Wobrau