Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Steve Garner

Dr Steve Garner

Athro Cyswllt mewn Cymdeithaseg, Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

316
Trydydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton

Trosolwg

Cymdeithasegwr yw Steve y mae ganddo ddiddordeb mewn hiliaeth, dosbarth a chenedlaetholdeb. Mae wedi gweithio fel gyrrwr, cyfieithydd, athro iaith ac yn sector cyhoeddus Iwerddon, yn ogystal â mewn nifer o brifysgolion yn Ffrainc, Iwerddon, Lloegr, Cymru ac UDA. Mae ei waith ymchwil wedi canolbwyntio'n bennaf ar gysyniad radicaleiddio. Mae'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau ansoddol ac archifol, ynghyd ag ystadegau er mwyn dadansoddi sut mae hiliaeth yn gweithredu ar draws cyfnodau hanesyddol a lleoliadau gan gynnwys: y Caribî, y DU, UDA, Iwerddon, Ewrop Nordig, Ffrainc ac America Ladin. Mae Steve wedi cyhoeddi dros 60 o gyhoeddiadau yn Saesneg ac yn Ffrangeg ar y pynciau hyn, gan gynnwys 8 llyfr, gyda chyhoeddwyr megis Routledge a Sage. Mae hefyd wedi darparu adroddiadau ymgynghorol i adrannau'r llywodraeth yn Iwerddon ac yn y DU.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffurfiau ar Hiliaeth (mewn cyd-destun cymharol, rhyngwladol)
  • Cenedl
  • Ethnigrwydd
  • Hunaniaethau gwyn
  • Dosbarth - Mewnfudo
  • Cymdeithaseg Wleidyddol
  • Astudiaethau Gwyddelig

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Hil a ffurfiau ar hiliaeth 

Anghydraddoldebau Cymdeithasol 

Dulliau Ansoddol