Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Dr Daniel Evans

Dr Daniel Evans

Darlithydd, Criminology, Sociology and Social Policy
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Yn ddiweddar, rydw i wedi dychwelyd i'r byd academaidd ar ôl seibiant o 5 mlynedd yn gweithio fel gweithiwr cymorth anghenion cymhleth gyda phobl sy'n cysgu allan yng Nghaerdydd. Yn Abertawe, rydw i'n darlithio mewn Troseddeg ar hyn o bryd, gan dynnu ar fy mhrofiad proffesiynol helaeth yn gweithio gyda throseddwyr a'r system cyfiawnder troseddol. 

Rwy'n ysgolhaig rhyngddisgyblaethol sydd â chefndir mewn gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol a chymdeithaseg. Mae fy ymchwil bresennol yn canolbwyntio'n fras ar gymdeithaseg wleidyddol a damcaniaeth gymdeithasegol, â diddordeb arbennig yng ngwleidyddiaeth Prydain a Chymru (yn enwedig hunaniaeth genedlaethol a datganoli), cymdeithaseg addysg, undebau llafur a'r broses lafur, astudiaethau milwrol beirniadol, troseddau a charchardai, a dulliau ethnograffig. Y llinyn sy'n uno'r pynciau gwahanol hyn yw fy niddordeb hirsefydlog mewn dosbarth cymdeithasol a'i ddylanwad ar hunaniaeth, ymddygiad gwleidyddol a mwy. 

Cyhoeddwyd fy ymchwil mewn cyfnodolion gan gynnwys Nations and Nationalism, Capital and Class, a British Politics. Yn 2021 golygais y llyfr The Welsh Way: Essays on Neoliberalism and Devolution. Ym mis Ionawr 2023, cyhoeddais fy llyfr A Nation of Shopkeepers, yn archwilio rôl y mân-fwrgeisiaid yn strwythur y dosbarthiadau modern a'i heffaith ar wleidyddiaeth boblyddwyr. Yn 2024 byddaf yn cyhoeddi monograff sy’n seiliedig ar fy PhD - British Wales: Class, Place and Everyday Nationhood - gyda Gwasg Prifysgol Cymru. 

Rwy'n gymdeithasegydd cyhoeddus ac wedi ymddangos droeon ar y teledu a'r radio, gan drafod fy ymchwil a darparu dadansoddiad gwleidyddol ar gyfer BBC News, BBC Wales News, BBC Radio Wales a Novara Media. Rwy'n cyflwyno darlithoedd cyhoeddus yn rheolaidd ac yn ddiweddar trafodais fy llyfr diweddaraf ar y mân-fwrdeisiaid ar raglen gymdeithaseg flaenllaw Radio 4 'Thinking Allowed'. Rwyf wedi ysgrifennu ar gyfer platfformau poblogaidd fel Jacobin, The New Statesman, Open Democracy, The Conversation, Planet: The Welsh Internationalist, a mwy.

Meysydd Arbenigedd

  • Dosbarth Cymdeithasol
  • Cymru a Datganoli
  • Gwleidyddiaeth/Economi Wleidyddol Prydain
  • Undebau Llafur
  • Cymdeithaseg Addysg
  • Astudiaethau Milwrol Beirniadol
  • Dulliau Ethnograffig
  • Troseddeg Feirniadol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ar hyn o bryd rwy'n addysgu amrywiaeth o fodiwlau ar draws y rhaglenni troseddeg a chymdeithaseg yn Abertawe. 

Ymchwil