Golwg o Gampws Singleton a’r bae gyferbyn o’r awyr
Llun proffil o Dr Kelly Buckley

Dr Kelly Buckley

Uwch-ddarlithydd, Criminology, Sociology and Social Policy
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Kelly yn wyddonydd cymdeithasol ag arbenigedd ym meysydd cymdeithaseg, troseddeg, iechyd cyhoeddus a pholisi cymdeithasol. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n gweithio i ddatrys problemau cymdeithasol 'enbyd’, yn enwedig holl ffurfiau trais yn erbyn menywod, trais domestig a rhywiol. Mae gan Kelly arbenigedd ymchwil penodol ym maes datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth aml-asiantaeth i atal trais, camdriniaeth a niwed, yn enwedig mewn perthynas â rôl iechyd wrth ymateb i drais a chamdriniaeth domestig. Mae hi hefyd wedi cynnal ymchwil gysylltiedig i dai/ddigartrefedd, addysg perthnasoedd a rhywioldeb a chamfanteisio'n rhywiol ar blant.

Mae Kelly yn ymchwilydd dulliau cymysg a chanddi brofiad sylweddol o greu ymchwil sydd wedi'i llywio gan leisiau'r rhai hynny â phrofiad o themâu ei hymchwil ac sy'n amlygu'r lleisiau hyn. Mae hi'n angerddol am gynnwys pobl ifanc a goroeswyr mewn ffordd ystyrlon, i gyfranogi a chreu ymchwil ar y cyd, a defnyddio methodolegau arloesol, creadigol a chyfranogol.

Meysydd Arbenigedd

  • Trais yn erbyn menywod, trais domestig a rhywiol
  • Methodolegau gwerthuso a'u dylunio
  • Dulliau creadigol a chyfranogol
  • Datblygu ymyriadau
  • Plant a phobl ifanc
  • Ffeministiaeth, damcaniaeth ffeministaidd a chyfiawnder cymdeithasol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

2020-2022 Family Recovery after Domestic Abuse (FReDA): Treial dichonoldeb a phroses werthuso ar yr un pryd o ymyriad seico-addysgol ar sail grŵp ar gyfer plant y mae trais a chamdriniaeth domestig wedi effeithio arnynt. Cyd-ymchwilydd. NIHR PHR £635,000

2018-2020 Gwerthusiad o Gynllun Braenaru Iechyd, Cyd-ymchwilydd. Safelives £195,000