Trosolwg
Mae Emma yn gyfrifydd â chymwysterau proffesiynol ac yn gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae gweithio fel rheolwraig ariannol ar gyfer cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol wedi rhoi profiad eang iddi o weithdrefnau cyfrifeg y DU a Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol. Gyda chyfoeth o brofiad diwydiannol, mae'n ymgorffori hyn yn ei haddysgu i gynnig enghreifftiau go iawn i fyfyrwyr er mwyn dangos bod cyfrifeg yn ddiddorol ac yn bwysig yn ogystal â bod yn ddewis gyrfa gwerth chweil.
Mae ei dulliau addysgu arloesol a'i gwybodaeth arbenigol am e-ddysgu wedi ei galluogi i gyflawni'r canlyniadau gorau erioed yr adran gyfrifeg o ran deilliannau gradd ac adborth myfyrwyr. Mae cyflogwyr wedi tynnu sylw penodol at werth galwedigaethol modiwlau a grëwyd gan Emma, ac maen nhw wedi ennyn canmoliaeth myfyrwyr am fod yn fodiwlau sy'n rhoi mantais cyflogadwyedd iddyn nhw yn ystod proses recriwtio graddedigion hynod gystadleuol. Mae Emma wedi derbyn llawer o wobrau gan yr ysgol am ei chyfraniad i addysgu, gan gynnwys gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu ar draws y brifysgol.
Yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Abertawe, mae Emma wedi ymgymryd â nifer o rolau gweinyddol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen ac Arweinydd yr Ysgol Reolaeth ar gyfer Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe. Arweiniodd ymrwymiad Emma i addysgu a gwella profiad dysgu myfyrwyr at ddyfarniad Uwch Gymrodoriaeth gyda'r Academi Addysg Uwch yn 2017.
Y tu allan i'r brifysgol, mae gan Emma gysylltiadau cryf â chyrff proffesiynol cyfrifeg, ac mae'n gwneud gwaith allanol i ACCA yn rhinwedd ei haelodaeth o'r Panel Rhanbarthol.