Bay Campus image

Dr Jafar Ojra

Uwch-ddarlithydd
Accounting and Finance

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606166

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
236
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Jafar Ojra yn Uwch-ddarlithydd Cyfrifeg yn  Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Mae gan Dr Ojra dros ddeng mlynedd o brofiad fel darlithydd ac mae'n darlithio, yn dylunio ac yn datblygu modiwlau a rhaglenni ar gyfer modiwlau israddedig ac ôl-raddedig ar hyn o bryd. Ar ben hynny, mae'n goruchwylio myfyrwyr MSc a PhD yn ei feysydd arbenigedd, sef cyfrifeg reoli a chynaliadwyedd.

Mae'n ddeiliad swydd ar lefel uwch sef Cyfarwyddwr  Rhaglen  y rhaglenni trosi MSc Cyfrifeg a Chyllid. Mae Dr Ojra yn Uwch-gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (SFHEA). Yn 2018 a 2023, dyfarnwyd y Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu gan Brifysgol Abertawe iddo.

Enillodd Jafar ei PhD yn 2014 gan Ysgol Fusnes Norwich, Prifysgol East Anglia, gan arbenigo mewn arferion Cyfrifeg Reoli. Mae Jafar wedi cyflwyno ei ymchwil yn y cynadleddau gorau. Mae ganddo ymagwedd amlddisgyblaethol at ymchwil oherwydd bod ei weithgarwch ymchwil cyfredol yn rhychwantu amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys Cyfrifeg Rheoli Strategol, Cyfrifeg ar gyfer Atebolrwydd, Mesur Perfformiad, Llywodraethu Corfforaethol, Archwilio a Mentergarwch a busnesau bach a chanolig.

Mae Dr Ojra wedi cymhwyso fel Cyfrifydd Rheolaeth Siartredig. Cyn iddo ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2014, gweithiodd Jafar yn helaeth ar draws sectorau diwydiannol amrywiol yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Daw Jafar o Fethlehem, Palesteina, yn wreiddiol, ac mae wedi ymgartrefu yn Abertawe ers 2014. Mae Jafar yn hoffi rhedeg marathonau gan fwynhau’r cyfeillgarwch, y rhyngweithiadau a'r gystadleuaeth sydd i'w cael â rhedwyr eraill ac mae ef wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer achosion amrywiol.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifeg Rheoli
  • Mesur Perfformiad
  • Gwneud Penderfyniadau Strategol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil
  • Cyfrifeg Rheoli Strategol
  • Mesur Perfformiad
  • Llywodraethu Corfforaethol
  • Mentergarwch a Busnesau Bach a Chanolig
Prif Wobrau Cydweithrediadau