Bay Campus
Headshot of Louise

Dr Louise Obara

Darlithydd Cyfrifeg a Chyllid
Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

237
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Ymunodd Louise â Phrifysgol Abertawe yn 2022 fel darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid. Cyn hyn, bu Louise yn gweithio am dros bum mlynedd ym Mhrifysgol De Montfort lle bu’n datblygu a rhedeg nifer o fodiwlau yn ogystal â rheoli'r rhaglen BA (Anrh) mewn Busnes a Rheolaeth. Mae Louise hefyd wedi gweithio yn y sector cyhoeddus fel gweithiwr cymdeithasol (lle bu'n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Swindon), ac fel swyddog ymchwil yn Llywodraeth Cymru (lle bu'n cyd-reoli rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid y Llywodraeth).

Cymwysterau

  • PGCLTHE (2019) Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch (Prifysgol De Montfort)
  • PhD (2015) From Awareness to Action: Exploring the Development of Human Rights within UK Companies from a Sensemaking and Organising Perspective (Prifysgol Caerdydd)
  • MSc (2009) Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Prifysgol Caerdydd)
  • MA (2002) Hawliau Dynol (Prifysgol Essex)
  • BSc (2001) Astudiaethau Cymdeithasol Cymhwysol (Prifysgol Caerfaddon)

Meysydd Arbenigedd

  • Moeseg busnes, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, cynaliadwyedd a hawliau dynol
  • Llywodraethu corfforaethol
  • Dulliau ymchwil ansoddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Cafodd Louise ei hyfforddi’n wyddonydd cymdeithasol, ac mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar hawliau dynol, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR) a chynaliadwyedd o fewn cwmnïau rhyngwladol (MNCs). Yn benodol, mae'n archwilio sut mae moeseg, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a hawliau dynol yn cael eu rheoli, eu gweithredu, eu mesur a'u datgelu gan MNCs yn ogystal â'r gyrwyr y tu ôl i'r graddau a'r math o gyfrifoldeb corfforaethol. Er bod ymchwil Louise yn canolbwyntio ar y bobl, systemau llywodraethu a phrosesau rheoli ffurfiol/anffurfiol o fewn busnesau, mae'n mabwysiadu dull cyfannol sy'n ymgorffori ac yn archwilio’r rhyngweithio rhwng ffactorau sefydliadol a mewnol (fel gwerthoedd gweithwyr, arweinyddiaeth, a diwylliant corfforaethol), ac agweddau allanol (fel rheoleiddio, pwysau rhanddeiliaid, a normau a thraddodiadau gwledydd cartref/cynnal). Mae Louise hefyd yn cymryd diddordeb brwd mewn cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, cynaliadwyedd a hawliau dynol ar y lefel ryngwladol, yn enwedig gwaith y Cenhedloedd Unedig a mentrau mewn perthynas â chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (e.e. Global Compact), busnes a hawliau dynol (e.e. Egwyddorion Arweiniol y Cenhedloedd Unedig), perfformiad cymdeithasol corfforaethol (e.e. Menter Adrodd Byd-eang), buddsoddiad moesegol (e.e. Egwyddorion ar gyfer Buddsoddiad Cyfrifol), a moeseg busnes / addysgeg cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.