Trosolwg
Ymunodd Dr Tim Zhou ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ym mis Medi 2013, ar ôl gweithio cyn hynny yng Nghymdeithas Adeiladu Nationwide, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Sunderland.
Mae ei waith ymchwil wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd a adolygwyd gan gymheiriaid megis European Journal of Finance a Journal of International Money and Finance. Ar ben hynny, cyflwynwyd un o'i bapurau ymchwil 'Too systemically important to fail' in banking - Evidence from bank mergers and acquisitions’ i Fanc Lloegr.
Mae hefyd yn ganolwr rheolaidd ar gyfer cyfnodolion academaidd a adolygir gan gymheiriaid, megis: Journal of Banking and Finance a European Journal of Finance.