Trosolwg
Darlithydd mewn Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe yw Zhenghong, swydd y mae wedi'i chyflawni ers mis Ionawr 2024. Cyn hyn, enillodd Zhenghong brofiad ymchwil helaeth drwy swyddi ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caeredin a Phrifysgol Reading. Enillodd ei radd PhD mewn Cyllid o Ganolfan ICMA yn Ysgol Fusnes Henley, lle cwblhaodd ei MSc mewn Rheoli Risg Ariannol fel y myfyriwr gorau. Yn ogystal â hynny, mae ganddo radd Baglor mewn Peirianneg o Brifysgol Dechnoleg Dalian yn Tsieina.
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn helaeth ac yn cynnwys cyllid yr hinsawdd, cyllid ar gyfer mentrau bach a chanolig, risg oroesi a'r maes newydd sy'n dod i'r amlwg gyllid lles.