Mae polisïau i fynd i'r afael â Covid-19 yn fwy tebygol o gael cefnogaeth eang y cyhoedd os bydd arbenigwyr neu glymbleidiau o bleidiau gwahanol, yn hytrach na gwleidyddion o un blaid yn unig, yn eu cynnig, yn ôl astudiaeth newydd o saith gwlad y cyfrannodd academydd o Brifysgol Abertawe ati.
Mae ymddygiad aelodau'r cyhoedd a'u cefnogaeth am fesurau megis masgiau wyneb neu gadw pellter cymdeithasol yn hollbwysig wrth fynd i'r afael â phandemig byd-eang. Serch hynny, gall fod yn anodd sicrhau a chadw'r gefnogaeth honno, ac osgoi trafodaethau sy'n polareiddio.
Yn ôl yr ymchwil, mae polareiddio'n dod i'r amlwg pan fo polisïau'n gysylltiedig â phleidiau gwleidyddol a gwleidyddion sy'n gwrthwynebu ei gilydd. Fodd bynnag, mae'r ymchwil hefyd wedi datgelu bod gan bobl gryn hyder y bydd arbenigwyr gwyddonol yn gweithredu er lles y cyhoedd.
Cynigiodd pandemig Covid-19 gyfle unigryw i astudio'r broblem hon. Dyma fygythiad newydd a gafodd ei brofi ar yr un pryd ledled y byd, gan wneud cymariaethau rhyngwladol yn bosib.
Roedd Dr Gabriela Jiga-Boy o Brifysgol Abertawe, sy'n arbenigo mewn seicoleg gymdeithasol, yn rhan o'r tîm ymchwil dan arweiniad Prifysgol Colorado Boulder, ochr yn ochr â chydweithwyr o rannau eraill o'r DU, yr Unol Daleithiau, Sweden, Israel, Awstria, yr Eidal a Singapôr.
Cymerodd 13,000 o bobl mewn saith gwlad – y DU, yr Unol Daleithiau, Brasil, Israel, yr Eidal, Sweden a De Corea – ran yn yr ymchwil. Mae amrywiaeth o systemau gwleidyddol a phleidiau gwahanol mewn grym yn y gwledydd hyn ac maent wedi cael profiadau amrywiol o Covid-19 ac ymatebion iddo.
Ym mhob gwlad, gofynnwyd i gyfranogwyr am eu barn wleidyddol gyffredinol yn gyntaf, gan ddefnyddio mesur o'r enw polareiddio affeithiol: eu teimladau tuag at wleidyddion rhyddfrydol a cheidwadol a thuag at arbenigwyr.
Yna gofynnwyd iddynt fynegi barn am ddau bolisi a oedd yn ymwneud â Covid-19. Roedd y ddau bolisi'n ymwneud â chyfyngiadau; roedd un yn pwysleisio mesurau iechyd cyhoeddus mwy llym er mwyn lleihau nifer yr achosion, ond roedd y llall yn ymwneud â gosod llai o gyfyngiadau at ddibenion adferiad economaidd.
Yn hollbwysig, dywedwyd wrth gyfranogwyr fod y polisïau'n cael eu cynnig gan un o bedwar grŵp: carfannau gwleidyddol rhyddfrydol elît, carfannau gwleidyddol ceidwadol elît, clymblaid o bleidiau gwahanol, neu arbenigwyr amhleidiol perthnasol megis Sefydliad Iechyd y Byd.
Gofynnwyd i gyfranogwyr raddio eu cefnogaeth gyffredinol am y ddau bolisi ac am fesurau cysylltiedig megis cadw pellter cymdeithasol, rheoliadau yn y gweithle, olrhain cysylltiadau a rheoliadau teithio.
Dangosodd yr ymchwil y canlynol:
- Roedd ymatebwyr ym mhob gwlad yn cefnogi polisïau a gynigiwyd gan arbenigwyr a chlymbleidiau o bleidiau gwahanol yn fwy na'r rhai a gynigiwyd gan garfannau rhyddfrydol neu geidwadol elît
- Roedd cysylltiad cryf rhwng cefnogaeth am bolisi a'r sawl a oedd yn ei gynnig
- Roedd ymatebwyr rhyddfrydol a cheidwadol yn cefnogi polisïau gwleidyddion a phleidiau roeddent eisoes yn eu cefnogi neu roeddent eisoes wedi pleidleisio drostynt yn fwy na'r un polisïau pan gawsant eu cynnig gan wleidyddion a phleidiau eraill
- Roedd cefnogaeth ehangach am y polisi a oedd yn canolbwyntio ar iechyd cyhoeddus na'r un a oedd yn ymwneud ag adferiad economaidd
- Nid oedd polareiddio gwleidyddol yn fwy yn yr Unol Daleithiau nag ydoedd mewn gwledydd eraill
- Yr un oedd canfyddiadau holiadur ychwanegol gyda chyfranogwyr o'r Unol Daleithiau ynghylch dosbarthu brechlynnau
Meddai Dr Gabriela Jiga-Boy o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe:
“Rydym yn dilyn esiampl ein harweinwyr (neu garfannau pleidiol elît) oherwydd bod dyletswydd arnom i wneud hynny. Ond mae carfannau pleidiol yn aml yn creu rhwystrau i'r gwaith o fynd i'r afael â bygythiadau cyffredin megis Covid-19. Maent yn polareiddio barn y cyhoedd drwy eu geiriau, eu gweithredoedd neu eu presenoldeb yn unig.
Daethom i'r casgliad bod esiampl carfannau gwleidyddol elît rydym yn eu cefnogi neu rydym yn pleidleisio drostynt yn achosi i ni hoffi carfannau gwleidyddol elît pleidiau eraill yn llai, ymddiried ynddynt yn llai a theimlo'n fwy oeraidd tuag atynt.
Er mwyn sicrhau na fydd negeseuon am Covid-19 yn polareiddio mwyach, un ateb yw rhoi'r arbenigwyr, nid y gwleidyddion, ar flaen y gad wrth gyfathrebu â phobl. Gall arbenigwyr helpu i atal materion rhag cael eu polareiddio. Yn ein data, roedd y polisïau a gafodd gefnogaeth clymbleidiau o bleidiau gwahanol ac arbenigwyr amhleidiol wedi osgoi'r effeithiau polareiddio hyn, gan ennill mwy o gefnogaeth. Mae ein canlyniadau'n dangos pwysigrwydd sicrhau bod arbenigwyr yn amhleidiol, er mwyn diogelu ffydd y cyhoedd ynddynt.”
Cyhoeddwyd y canfyddiadau yn y cyfnodolyn PNAS (Proceedings of the National Academy of Sciences).