Cafodd yr ail gyfnod clo o ganlyniad i Covid-19 yr effaith fwyaf ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc ymhlith poblogaeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd.
Canfu'r astudiaeth – yr un gyntaf i gymharu profiadau yn ystod dau gyfnod clo cyntaf y pandemig – fod lles wedi dirywio'n sylweddol rhwng y ddau gyfnod a bod pobl rhwng 16 a 24 oed a phobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig wedi dioddef fwyaf.
Sefydlwyd y grŵp ymchwil Lles Cymru – menter gydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a'r GIG yng Nghymru – er mwyn monitro pa faterion sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y boblogaeth. Mae'r grŵp wedi cynnal cyfres o arolygon drwy gydol argyfwng y coronafeirws, gan ofyn i aelodau'r cyhoedd yng Nghymru sut maent wedi bod yn ymdopi.
Dan arweiniad yr Athro Nicola Gray, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, a'r Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd, mae'r grŵp bellach wedi datgelu:
• Bod 40.4 y cant o gyfranogwyr yn dioddef o lefelau clinigol arwyddocaol o ofid seicolegol yn yr ail arolwg, sef 9.8 y cant yn fwy nag yn yr arolwg cyntaf;
• Bod menywod, oedolion iau a phobl o ardaloedd difreintiedig yn dioddef o iechyd meddwl gwaeth;
• Bod iechyd meddwl pobl yn y grŵp oedran ieuengaf (rhwng 16 a 24 oed) wedi dirywio fwyaf.
Mae canfyddiadau diweddaraf y grŵp, sy'n seiliedig ar arolygon a gynhaliwyd rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020 a rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, newydd gael eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn ar-lein Advances in Mental Health.
Archwiliodd yr ymchwilwyr atebion 12,989 o gyfranogwyr i'r arolwg ar y don gyntaf a 10,428 o gyfranogwyr i'r arolwg ar yr ail don.
Dangosodd eu hatebion fod lefelau lles yn waeth yn yr ail arolwg o'u cymharu â'r arolwg cyntaf, a oedd eisoes yn waeth o'u cymharu â data cyn y pandemig o 2019.
Meddai'r Athro Gray: “Y peth mwyaf trawiadol yw bod iechyd meddwl pobl iau wedi dirywio fwyaf, gan ddwysáu'r anghydbwysedd a oedd eisoes yn bodoli o ran iechyd meddwl y bobl ifanc hyn. Felly, roedd 66.3 y cant o'r grŵp ieuengaf o bobl a arolygwyd yn adrodd am ofid seicolegol cymedrol neu ddifrifol o'u cymharu ag 16.7 y cant o bobl 75 oed neu'n hŷn.
“Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu y gall yr ail gyfnod clo fod yn gyfrifol am y canfyddiadau presennol bod iechyd meddwl wedi dirywio.”
Dywedodd fod y data'n dangos bod cyfyngiadau cyfnodau clo'n arbennig o beryglus i iechyd meddwl pobl ifanc: “Mae llawer o resymau posib. Rydym yn gwybod bod perthnasoedd rhwng cyfoedion o bwys penodol wrth ddiogelu pobl ifanc rhag gorbryder, iselder a syniadaeth sy'n ymwneud â hunanladdiad.
“Felly, mae unrhyw fesurau sy'n cyfyngu ar gysylltiadau rhwng cyfoedion yn debygol o fod yn arbennig o niweidiol i bobl iau. Mae pobl o grwpiau oedran iau hefyd yn llai gwydn o'u cymharu â phobl hŷn ac mae ganddynt lai o sicrwydd o ran materion ariannol a chyflogaeth.”
Ychwanegodd yr Athro Snowden: “Er bod angen gwneud rhagor o waith ymchwil er mwyn deall yr elfennau achosol, mae'n rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol am gynllunio cymorth lles i gymunedau yn ystod y pandemig a'r tu hwnt ystyried ein canfyddiad bod y pandemig wedi cael effaith fwy niweidiol ar unigolion iau.”
Mae aelodau'r tîm bellach yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau'n ategu bod angen ystyried lles wrth i ni symud ymlaen yn raddol ar ôl Covid-19.
Ychwanegodd yr Athro Gray: “Mae'r feirws wedi achosi argyfwng byd-eang sydd wedi cael effaith ddigynsail. Mae'n hollbwysig parhau i fonitro lles a lefelau gofid seicolegol y boblogaeth, ochr yn ochr ag ymchwilio i achosion lles meddwl gwaeth.
“Rhaid i raglenni adfer ar ôl y pandemig fynd i'r afael â'r ffaith bod anawsterau iechyd meddwl a lles yn cynyddu ymhlith pobl ifanc, unigolion o ardaloedd difreintiedig a menywod.”