Menyw hŷn yn eistedd wrth edrych i fyny ar nyrs yn ei gwisg sydd â'i breichiau ar ei hysgwyddau ac yn gwenu

Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n chwilio am help i gynnal astudiaeth unigryw o brofiad siaradwyr Cymraeg hŷn o ofal.

Mae Angharad Higgins, myfyrwraig PhD o'r Ganolfan Heneiddio Arloesol, am siarad â Chymry Cymraeg hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal neu leoliadau gofal megis ysbytai am y Gymraeg a'i rhan yn eu bywydau.

Meddai Angharad: “Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i bobl o gymunedau Cymraeg dderbyn gofal mewn ardaloedd eraill weithiau, gan leihau eu cysylltiad dyddiol â'u hiaith gyntaf o bosib.

“Efallai na fyddan nhw'n byw ymhlith pobl y mae ganddyn nhw hanes cyffredin â nhw. Rydyn ni am ddeall beth sydd wedi newid yn eu bywydau ers iddynt fynd i leoliad gofal a'r gwahaniaeth mae hyn wedi’i wneud iddyn nhw.”

At ddibenion yr astudiaeth, hoffai Angharad hefyd glywed gan unigolion, neu deuluoedd a ffrindiau agos a all ei chysylltu ag unigolion, a allai ddymuno cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Y gobaith yw y bydd canfyddiadau'r astudiaeth, a ariennir gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cael eu defnyddio yn y pen draw er mwyn helpu i rannu arferion da.

Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch ag Angharad drwy ffonio 07468 985861 neu drwy e-bostio.

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect.

Rhannu'r stori