(O'r chwith i'r dde) Fayon Dixon, darlledwr a chyflwynydd y gwobrau, Gabrielle Orbaek White, Xiaojun Yin, Dr Patricia Xavier a Kamini Edgley, Cyfarwyddwr Diogelwch a Pheirianneg Network Rail.

Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Leonardo Royal Hotel Tower Bridge. (O'r chwith i'r dde) Fayon Dixon, darlledwr a chyflwynydd y gwobrau, Gabrielle Orbaek White, Xiaojun Yin, Dr Patricia Xavier a Kamini Edgley, Cyfarwyddwr Diogelwch a Pheirianneg Network Rail.

Mae Peirianneg Gyffredinol ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill gwobr am fod yn Fenter Fwyaf Arloesol 2022 yn yr Engineering Talent Awards.

Wedi'u pweru gan EqualEngineers, mewn partneriaeth â Metro, yr Academi Frenhinol Peirianneg a McLaren Racing, mae'r gwobrau'n dathlu amrywiaeth maes peirianneg a thechnoleg yn genedlaethol.                                                                               

Derbyniodd yr Adran Peirianneg Gyffredinol y wobr, a noddwyd gan Network Rail, am roi cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ei strategaeth dysgu ac asesu.

Mae'r MSc mewn Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol, dan arweiniad Xiaojun Yin, Athro Cysylltiol Peirianneg Sifil, yn cyfuno dealltwriaeth a dulliau sy'n deillio o'r gwyddorau cymdeithasol a pheirianneg, gan helpu myfyrwyr i wella eu gallu i roi cyfiawnder wrth wraidd eu penderfyniadau.

Mae'r cwrs wedi cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Chyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe a Sefydliad y Tywysog, gan gynnwys technegau a gyflwynwyd gan Dr Catherine Groves ac a ddatblygwyd ymhellach gan y tiwtor addysgu Gabrielle Orbaek White fel rhan o'i hastudiaethau doethurol gyda Dr Patricia Xavier a Dr Elaine Forde.

Meddai Gabrielle Orbaek White: “Mae gan beirianneg hanes hir a chymhleth o ran ymerodraeth a gwladychu, ac mae'r wobr hon yn cydnabod yr ymdrechion rydyn ni wedi eu gwneud i wanhau'r etifeddiaeth hon a dechrau'r broses hirddisgwyliedig o ddadwladychu'r cwricwlwm peirianneg.

“Roedd hwn yn waith heriol, ond ysgogodd dwf personol a phroffesiynol enfawr ymhlith y myfyrwyr a'r staff addysgu fel ei gilydd, gan ein paratoi ni i gyd i fod yn ymarferwyr mwy moesegol ac ymwybodol yn feirniadol yn ein hymdrechion yn y dyfodol.

“Mae cystadlu yn erbyn rhai mentrau arloesol technolegol trawiadol yng nghategori ein gwobr a gorffen ar y brig yn dangos bod peirianwyr yn gallu blaenoriaethu'r gwaith hwn a'u bod nhw'n barod i wneud hynny.”

Gan ddefnyddio ymagwedd feirniadol, ymgymerodd myfyrwyr â gwaith dylunio peirianneg ar y cyd â phartneriaid datblygu rhyngwladol wrth fynd i'r afael â'r ffordd y mae etifeddiaeth gwladychu yn dylanwadu ar y perthnasoedd y maent yn eu meithrin.

Meddai Dr Patricia Xavier, Athro Cysylltiol a Phennaeth yr Adran Peirianneg Gyffredinol: “Mae'r ymagwedd gymdeithasol-dechnegol hon yn helpu myfyrwyr i ddadansoddi rhagdybiaethau hirsefydlog am rôl gwledydd y gorllewin yn Affrica, rhoi sylw i drais hanesyddol ac anghyfiawnderau parhaus, a gosod rôl gwybodaeth pobl gynhenid wrth wraidd peirianneg at ddibenion datblygu.”

Nod y cwrs yw meithrin gwybodaeth myfyrwyr ynghylch sut gallant wrthsefyll ideolegau anghyfiawn ym mhob gweithle y maent yn dod ar ei draws, gan eu hannog i ysgogi newid mewn amgylcheddau anghynhwysol.

Meddai Dr Catherine Groves, Uwch-ddarlithydd mewn Marchnata: “Fel seicolegydd, mae wedi bod yn bleser go iawn gweithio am flynyddoedd gyda chydweithwyr o'r Coleg Peirianneg i ddatblygu arferion addysgu ac asesu tarfol.

“Rydyn ni wedi gweld myfyrwyr yn dysgu i feddwl mewn modd mwy beirniadol a rhoi cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd eu harferion peirianneg.

“Rwy'n falch bod yr Engineering Talent Awards wedi cydnabod ein hymdrechion a'n harloesedd.”

Ychwanegodd Dr Elaine Forde, darlithydd busnes yn yr Ysgol Reolaeth: “Mae ‘Gweddw Crefft Heb ei Dawn’ yn fwy nag arwyddair Prifysgol Abertawe; ein hegwyddor arweiniol yw hi ac mae'r anrhydedd hwn yn dangos pam mae Abertawe'n arwain y ffordd yn y maes ymchwil ac addysgu rhyngddisgyblaethol hwn.”

Rhannu'r stori