Mae darlith uchel ei bri Prifysgol Abertawe o'r enw “Asking the Next Evolution of Twins to Radically Shape Our Future” wedi cael ei thraddodi gan yr Athro Royston Jones, Is-lywydd Gweithredol Gweithrediadau Ewropeaidd a Phrif Swyddog Technoleg Byd-eang Altair, sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang o ran efelychu, deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura perfformiad uchel, mewn digwyddiad yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Roedd y ddarlith, a drafododd ddatblygiadau wrth roi technoleg gefeillio digidol ar waith, yn cyd-fynd â menter newydd y Brifysgol i greu Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial.
Mae’r Sefydliad wedi ei enwi ar ôl y diweddar Athro Peirianneg Sifil Olek C Zienkiewicz, a arloesodd y dull elfennau meidraidd ac a oedd yn meddu ar weledigaeth eang o fodelu'r byd a defnyddio cyfrifiaduron i greu ac archwilio data i ddatrys problemau peirianneg.
Roedd yr Athro Jones yn un o fyfyrwyr yr Athro Zienkiewicz rhwng 1978 a 1984 ac mae wedi dweud bod y profiad wedi llywio ei ddyfodol ym myd diwydiant fel un o arloeswyr defnyddio'r dull elfennau meidraidd er mwyn arloesi syniadau.
Dros y blynyddoedd, mae Dr Jones wedi cynnal cysylltiadau agos ag Abertawe drwy ymchwil gydweithredol, cynghori ar fentrau strategol a thrwy draddodi darlithoedd, cefnogi datblygiad myfyrwyr, darparu hyfforddiant i fyfyrwyr ymchwil a llywio datblygiad y gyfadran drwy ei aelodaeth o’i phwyllgor ymgysylltu diwydiannol ar gyfer peirianneg awyrofod. Drwy ei rwydwaith diwydiannol ac academaidd helaeth, daeth hefyd â chwmnïau modurol blaenllaw i Abertawe, gan arwain at fentrau cydweithredol newydd.
Yn y rôl hon fel cydweithredwr ymchwil a llysgennad, yn bennaf ym maes dadansoddi elfennau meidraidd, dylunio sy'n seiliedig ar efelychu a'i gymwysiadau diwydiannol, ond hefyd ym maes ehangach dylunio a dylunio at ddiben gweithgynhyrchu, mae'r Athro Jones wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at y gyfadran, a bydd yn parhau i wneud hynny, gan hybu bri Prifysgol Abertawe ledled y byd drwy gysylltiadau diwydiannol.
Meddai’r Athro Jones:
“Roedd yr Athro Zienkiewicz a'r Adran Peirianneg Sifil yn ei chyfanrwydd yn ysbrydoliaeth i mi. Roedd yn gyfnod hynod gyffrous i fod yn rhan o'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang hon ar gyfer dulliau rhifiadol a oedd wrth wraidd yr ymchwil i’r dulliau. Ces i fy sbarduno i ymuno â byd diwydiant gan weledigaeth gref y Brifysgol mai elfennau meidraidd fyddai'r prif ddull ym maes peirianneg yn y dyfodol. Mae gweld y weledigaeth hon yn cael ei gwireddu dros y pedwar degawd diwethaf wedi rhoi llawer o bleser i mi. Hyd yn oed heddiw, mae'n destun cyffro mawr i mi feddwl am gyfeiriad posib y dechnoleg, gan fy mod i'n credu ein bod ni heb ddod yn agos at wireddu ei photensial llawn eto. Yn Altair, rydyn ni'n gweld efelychu (modelu), dadansoddi data (deallusrwydd artiffisial) a chyfrifiadura perfformiad uchel yn dod ynghyd. O ganlyniad i hynny, mae creu Sefydliad Zienkiewicz yn gwneud synnwyr perffaith ac mae'n cyd-fynd â'r tueddiadau technolegol presennol a gofynion byd diwydiant. Roedd yn anrhydedd aruthrol traddodi'r ddarlith hon i'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.”
Bydd Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial, sydd wedi ei greu o'r newydd i ddisodli Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol, yn datblygu Peirianneg Gyfrifiadol mewn sefydliad ymchwil eang a fydd yn ymwneud â modelu, gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.
Mae'r sefydliad yn cynnwys nifer mawr o aelodau staff amser llawn, rhan-amser ac academaidd emeritws, myfyrwyr ôl-ddoethurol, ymchwilwyr annibynnol a myfyrwyr graddedig a'i nod yw darparu cymuned adnabyddadwy yn Abertawe ar gyfer ymchwilwyr a grwpiau ymchwil amrywiol o fri rhyngwladol.
Meddai'r Athro Hans Sienz, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol Interim y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg:
“Wrth i ni wynebu chwyldro o ran marchnadoedd, cynhyrchion a gwasanaethau tarfol, bydd y cyfuniad o dechnolegau aeddfed a rhai sy'n dod i'r amlwg a'u cysylltedd yn effeithio'n drawiadol ar ein dyfodol. Bydd cyfuno gwyddor data â chryfderau traddodiadol Abertawe ym maes peirianneg gyfrifiadol yn trawsnewid cyrhaeddiad ac effaith ein hymchwil a gyflawnir drwy gydweithrediadau agos, fel y cydweithrediad ag Altair.”
Gwyliwch y ddarlith “Asking the Next Evolution of Twins to Radically Shape Our Future”.