Yr Her
Mae ymddeol o'r gwaith yn gyfnod o newid mawr. Mae llawer o bobl yn edrych ymlaen at ymddeol. Fodd bynnag, gall fod yn brofiad heriol i bobl eraill wrth iddynt ymaddasu i'w rôl a'u hamgylchiadau newydd. Er bod llawer o bobl yn mwynhau'r rhyddid sy'n deillio o ymddeol, amcangyfrifwyd bod oddeutu 25% o bobl yn cael anawsterau sy'n arwain at ganlyniadau seicogymdeithasol niweidiol ar ôl ymddeol.
Y Dull
Mae dyfodiad ffyrdd newydd o weithio yn hwyrach mewn bywyd, megis ymddeol yn rhannol, swyddi pontio a dychwelyd i'r byd gwaith, yn cyflwyno amrywiaeth o gyfleoedd i weithwyr hŷn. Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau eu hunain yn hwyrach mewn bywyd, mae angen i ni feithrin dealltwriaeth well o'r ffactorau a all effeithio ar bobl wrth iddynt ymaddasu ar ôl ymddeol.
Roedd Dr Martin Hyde (Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol) a'r Athro Katrina Pritchard (Ysgol Reolaeth) yn rhan o'r tîm o ymchwilwyr amlddisgyblaethol, rhyngwladol a gomisiynwyd gan The Centre for Ageing Better i gynnal adolygiad cynhwysfawr i nodi pa ffactorau sy'n effeithio ar agweddau pobl cyn iddynt ymddeol a'u profiad yn ystod y cyfnod ar ôl iddynt ymddeol o waith am dâl.
Nododd y tîm wyth thema a oedd yn effeithio ar ddisgwyliadau pobl a'r ffordd roeddent yn ymaddasu ar ôl ymddeol; i) rhywedd, ii) sefyllfa economaidd-gymdeithasol, iii) ffactorau ethnig a diwylliannol, iv) sefyllfa deuluol, v) iechyd, vi) agweddau at heneiddio, vii) gwaith a galwedigaeth, viii) parodrwydd a rheolaeth.
Roedd rhai o'r casgliadau allweddol fel a ganlyn:
- roedd rheolaeth dros y broses o ymddeol yn helpu pobl i ymaddasu'n fwy cadarnhaol ar ôl ymddeol; felly, mae angen yr adnoddau ar bobl i'w galluogi i gymryd rheolaeth dros eu hymddeoliad.
- roedd pobl mewn sefyllfaoedd cymdeithasol llai breintiedig yn tueddu i gael profiadau mwy negyddol ar ôl ymddeol a oedd yn cyd-fynd â gwaith ymchwil ar anghydraddoldebau cymdeithasol yn fwy cyffredinol.