Rydym yn byw mewn oes ddigidol lle mae technoleg yn newid, yn tarfu, ac yn gweddnewid yn gyson. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn defnyddio technoleg ddigidol ar draws pob disgyblaeth gan gynnwys y gyfraith, iechyd, gwyddoniaeth, peirianneg, y celfyddydau a'r dyniaethau, i ddadansoddi'r gorffennol a dylanwadu ar y dyfodol.
Rydym wedi:
- Derbyn cyllid i fod yn rhan o 16 Canolfan newydd ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Deallusrwydd Artiffisial, rhan o fuddsoddiad gwerth £100 miliwn gan Ymchwil ac Arloesi y DU. Yma, bydd ymchwilwyr yn defnyddio technoleg AI i wella gofal iechyd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, dadansoddi Data Mawr a chreu cyfleoedd masnachol newydd.
- Cyfrannu at ymchwil mewn AI o ddarganfod tonnau disgyrchiant i ganfod canser y fron. Drwy ein dull gweithredu rhyngddisgyblaethol, gall Prifysgol Abertawe ddatblygu prosiectau ymchwil o'r radd flaenaf sy'n cwmpasu ffiseg gronynnau sylfaenol a Seryddiaeth, y gwyddorau iechyd a chlinigol, a syniadau newydd mewn pynciau gwyddorau mathemategol, ffisegol a chyfrifiadurol.