Mae Fferylliaeth a Ffarmacoleg yn ddwy ddisgyblaeth wahanol iawn, gydag amcanion tebyg o sicrhau bod meddyginiaethau yn ddiogel ac yn effeithiol i gleifion.
Ffarmacoleg yw'r ddisgyblaeth fiofeddygol sy'n ymwneud â datblygu cyffuriau ac astudio'r effeithiau maent yn eu cael ar organeddau byw. Erbyn hyn, mae gan Ffarmacoleg nifer o isdeuluoedd, sy'n cynnwys, ymhlith eraill:
- Ffarmacocineteg
- Niwroffarmacoleg
- Imiwnoffarmocoleg
- Ffarmacoleg Canser
Mae ffarmacoleg yn hanfodol mewn llawer o ddisgyblaethau biofeddygol. Gallwch weld presenoldeb ffarmacoleg ym mhobman. Mewn cabinetau meddygaeth, pan fyddwch yn ymweld â'r deintydd a phan fyddwch chi'n cymryd math o feddyginiaeth Efallai y bydd gan ffarmacolegwyr ddealltwriaeth arbenigol o effaith cyffuriau ar gorff organeb byw mewn meysydd therapiwtig penodol; ffarmacoleg gardiofasgwlaidd neu ffarmacoleg gastroberfeddol, er enghraifft. Efallai y byddant yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys fferyllwyr fel rhan o'r broses dylunio a datblygu cyffuriau. Yn ogystal, efallai byddant yn rhan o waith ymchwil sy’n ymwneud â sut mae cyffuriau'n gweithio a sut maent yn effeithio ar y corff. Mae ffarmacolegwyr yn helpu i wella therapïau presennol, yn ogystal â darganfod a datblygu meddyginiaethau newydd i'w defnyddio ym maes gofal iechyd.
Ar y llaw arall, mae Fferylliaeth yn ddisgyblaeth fiofeddygol alwedigaethol sy'n cynnwys agweddau ar ffarmacoleg, ffarmafferyllol, cemeg fferyllol, biocemeg, ffisioleg ddynol, ymarfer fferylliaeth a fferylliaeth glinigol.
Yn hanesyddol, cafodd Fferylliaeth ei hystyried fel gwyddor paratoi, cadw, cyfuno a dosbarthu meddyginiaethau. Fodd bynnag, mae Fferylliaeth yr oes fodern hefyd yn cynnwys darganfod, dylunio a datblygu cyffuriau. Mae'n broffesiwn cofrestredig sydd wedi symud o ddosbarthu meddyginiaethau i reoli meddyginiaethau a rheoli cleifion ag anghenion cymhleth. Mae fferyllwyr yn helpu i ddatblygu a gwella'r defnydd o feddyginiaethau presennol a newydd ym maes gofal iechyd.
Gan fod Fferyllwyr yn arbenigwyr meddyginiaeth, maent yn gallu gwerthuso priodoldeb clinigol meddyginiaethau a ragnodwyd, adolygu a monitro cleifion a chyfeirio'n briodol i sicrhau diogelwch cleifion. Mae fferyllwyr heddiw yn rhan o ddatblygu a defnyddio meddyginiaethau personol, therapïau CAR-T a brechlynnau.
Mae astudio fferylliaeth fel meddu ar radd sy'n basbort rhyngwladol, gan eich galluogi chi i weithio yn y gymuned, mewn ysbytai, meddygaeth gyffredinol (meddyg teulu), academia, ymchwil, gofal cartref, materion rheoleiddio, carchardai a fferylliaeth filfeddygol a milwrol. Mae llawer o fferyllwyr heddiw yn rhagnodwyr annibynnol ac yn aelodau allweddol o dimoedd amlddisgyblaethol sy’n sicrhau darpariaeth gofal di-dor.