Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r byd yn newid yn gyflym ac mae cynifer o gymdeithasau ar draws y byd yn wynebu nifer o heriau cymhleth gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, cynnydd yn niferoedd y boblogaeth, a nifer yr adnoddau yn dirywio. Peirianwyr yw’r bobl sy’n meddu ar y sgiliau i ddatrys problemau a datblygu cynhyrchion a systemau i fodloni anghenion newidiol cenedlaethau’r dyfodol.
Mae cynnydd parhaus o ran pŵer cyfrifiadura a’r defnydd cynyddol o systemau integredig sy’n cysylltu systemau mecanyddol, trydanol a systemau peirianneg eraill ynghyd yn creu sectorau diwydiannol newydd sy’n torri ar draws ffiniau rhaglenni peirianneg traddodiadol.
Wrth i economi’r Deyrnas Unedig symud i net sero Carbon erbyn 2050, bydd angen i raddedigion ddeall eu cyfrifoldeb o ran rheoli tair colofn cynaliadwyedd (cymdeithas, yr amgylchedd, ac economi). I helpu i gyflawni hyn, mae gennym ni ffrwd cynaliadwyedd a rheoli graidd, fyd-eang gan dynnu ar arbenigedd mewn Colegau eraill a’n partner strategol Prifysgol A&M Tecsas.