Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd mewn Ymarfer Uwch Barafeddygon wedi'i datblygu i alluogi parafeddygon cofrestredig y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) i ymgymryd â dysgu yn y gwaith a datblygu ymarfer i ennill credyd academaidd am eu dysgu.

Mae nifer o’n staff addysgu hefyd yn barafeddygon cofrestredig sydd yn parhau i ymarfer, gan ddarparu cyfuniad heb ei ail o drylwyredd academaidd ac arbenigedd proffesiynol.
Byddwch yn ymuno â phrifysgol sydd yn 8fed yn y DU am ansawdd addysgu ac yn 6ed am ragolygon gyrfa (What Uni 2023).
Rhodd y cwrs gyfle i chi ennyn credyd academaidd ar gyfer eich dysgu; darparu datblygiad proffesiynol hyblyg a chyd-destunol wedi'i deilwra i weddu i'ch anghenion gyrfa. Mae'r modiwlau sydd ar gael wedi'u cynllunio yn unol â phedair colofn ymarfer parafeddyg, gan roi'r cyfle i ddatblygu a dangos tystiolaeth ar draws y meysydd hyn.
Students must choose between 40 and 60 credits from the following options:
Enw'r Modiwl | Hyd y Modiwl | Credydau | Cod y Modiwl |
---|---|---|---|
Starting Your Professional Development | September-January (TB1) | 20 | SHG3056P |
Dewiswch Uchafswm o 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Select a maximum of two of the following modules. A total of 60 credits of optional modules can be selected during the programme. Alternatively, you can select between 20 and 40 credits from the College module catalogue.
Enw'r Modiwl | Hyd y Modiwl | Credydau | Cod y Modiwl | Canllawiau |
---|---|---|---|---|
Patient Assessment and Management Skills 1 | September-June (TB1+2) | 20 | SHE316 | |
Advancing Your Own Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3057P | |
Assessing Your Current Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3058P | |
How Can I Make a Change in Practice? | September-January (TB1) | 20 | SHG3059P | |
How the Evidence Base Can Help You Change Your Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3060P | |
Policy Influences on Your Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3062P | |
Teaching and Learning in Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3064P |
Students must choose between 60 and 80 credits from the following options:
Enw'r Modiwl | Hyd y Modiwl | Credydau | Cod y Modiwl |
---|---|---|---|
Personal Practice Development Portfolio | January-June (TB2) | 40 | SHG3061P |
Dewiswch Uchafswm o 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Select a maximum of two of the following modules. A total of 60 credits of optional modules can be selected during the programme. Alternatively, you can select between 20 and 40 credits from the College module catalogue.
Enw'r Modiwl | Hyd y Modiwl | Credydau | Cod y Modiwl | Canllawiau |
---|---|---|---|---|
Patient Assessment and Management Skills 1 | September-June (TB1+2) | 20 | SHE316 | |
Advancing Your Own Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3057P | |
Assessing Your Current Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3058P | |
How Can I Make a Change in Practice? | September-January (TB1) | 20 | SHG3059P | |
How the Evidence Base Can Help You Change Your Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3060P | |
Policy Influences on Your Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3062P | |
Teaching and Learning in Practice | September-January (TB1) | 20 | SHG3064P |
Students must choose between 30 and 60 credits from the following options:
Heb ddod o hyd i un
Dewiswch Uchafswm o 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Select a maximum of two of the following modules. 60 credits of optional modules can be selected for the progreamme. Alternatively, you can select between 20 and 40 credits from the College module catalogue.

I ymuno â'r rhaglen BSc, mae angen; cyflogaeth gyfredol fel parafeddyg cofrestredig HCPC a thystiolaeth o 120 credyd ar lefel 5.
Fel arall, gall parafeddygon heb 120 credyd ar lefel 5 gael mynediad i'r BSc ar ôl cwblhau'r Diploma mewn Ymarfer Uwch Broffesiynol. Er enghraifft, gall parafeddygon IHCD wneud cais am APeL trwy asesu eu portffolio ymarfer a dyfarnu credydau iddynt am eu dysgu trwy brofiad gan y coleg gwyddor iechyd dynol. Cyflawnir y credydau sy'n weddill trwy'r modiwlau yn y Diploma Ymarfer Proffesiynol Gwell.
Dyma i chi gwrs modiwlaidd rhan-amser dwy flynedd, a gyflwynir gan ddefnyddio dysgu cyfunol gan gynnwys dysgu yn y gwaith a phresenoldeb mewn modiwlau a addysgir os dewiswch.
Bydd y modiwl cyntaf ‘Cychwyn eich Datblygiad Proffesiynol’ yn cynnwys pedwar diwrnod a addysgir o fewn yr Ysgol. Bydd modiwlau dilynol naill ai'n fodiwlau a addysgir sy'n bodoli o'r catalog modiwlau ôl-raddedig gyda dulliau asesu sefydledig neu fodiwlau yn y gwaith a fydd yn cael eu hasesu yn ôl portffolio.
Ar gyfer y modiwlau yn seiliedig ar waith byddwch, ar y cyd â hwylusydd ymarfer a rheolwr rhaglen, yn datblygu cytundebau dysgu a fydd â'r nod o fodloni gofynion dysgu'r modiwl ac anghenion datblygu ymarfer yn eich meysydd ymarfer. Mae uno theori â phrofiad, gwella arfer yn deillio o ddysgu yn yr amgylchedd gwaith, yn sail i ddatblygiad proffesiynol ac yn cyfrannu ato.
Mae’r cwrs yma’n cynnig peth modiwlau a ddysgir drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog i fyfyrwyr sy’n ystyried eu hun i fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Am fwy o fanylion am y ddarpariaeth ar gael gweler y wybodaeth yn fwy manwl isod.
Darperir rhai elfennau o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn.
Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:
I ddysgu mwy am yr uchod ac am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i dudalennau israddedig Academi Hywel Teifi
Sarah Done Darlithydd Uwch
Nikki Williams Darlithydd Uwch
Marc Thomas Darlithydd Uwch
Sara Galletly Darlithydd
Emma Williams Darlithydd
Sara Morris Darlithydd
Dyddiad Dechrau | D.U. | Rhyngwladol |
---|---|---|
Medi 2024 | £ 2,625 | N/A |
Medi 2025 | £ 2,625 | N/A |
Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.
Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:
Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.
Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob ysgol. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.
I wneud cais am y cwrs hwn bydd angen diploma priodol neu gyfwerth arno gan sefydliad cymeradwy ac mae angen tystiolaeth o astudiaeth academaidd ddiweddar neu lwybr IHCD i ddiploma.
Fel arall, gellir ystyried tystiolaeth o ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus a bod â phortffolio proffesiynol da a pherthnasol yn y gofal cyn-ysbyty neu'r proffesiwn parafeddyg.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf yna mae angen sgôr IELTS o 7.0 arnoch chi.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Sarah Done s.e.done@swansea.ac.uk
Dadlwythwch y ffurflen gais DPP
Myfyrwyr yr UE - mae gwybodaeth am fisa a mewnfudo ar gael a bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar ein tudalen gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr yr UE.
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.