Trosolwg o'r Cwrs
Mae biocemeg feddygol wrth wraidd meddygaeth fodern. Mae’n rhan hanfodol o’n dealltwriaeth o achosion ac effeithiau clefydau a’r ffordd rydym yn datblygu triniaethau newydd.
Gradd MSci 4-blynedd israddedig uwch yw hon, sy’n ychwanegu blwyddyn ar ben y BSc 3-blynedd, sy’n canolbwyntio ar waith ymchwil. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer yr holl fywyd ar y ddaear. Mae’r rhaglen MSci hon yn dilyn ein cwrs BSc mewn Biocemeg Feddygol, ond mae’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn ystod eang o dechnegau labordy. Yn ystod y flwyddyn ychwanegol byddwch yn datblygu prosiect ymchwil estynedig.
Yn ystod y radd israddedig uwch hon byddwch yn dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd, gan olygu y byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth biocemegol organeddau byw, yn arbennig anifeiliaid a bodau dynol.
Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.