Y Gyfraith ar Waith gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
A group of students in class

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r LLB Y Gyfraith ar Waith ym Mhrifysgol Abertawe yn radd sy'n para pedair blynedd, wedi'i chynllunio'n ofalus i fod yn rhaglen ddeallusol drylwyr ac arloesol, sydd hefyd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle.

Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i gael dealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithio yn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith gymdeithasol, gan ddatblygu meddwl dadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sydd ei angen gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cynnig sylfaen gref i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

Yn nhrydedd flwyddyn eich gradd LLB, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth â thâl gyda chyflogwr mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch deilwra'ch gradd drwy ystod eang o fodiwlau dewisol mewn meysydd fel Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Masnach y Byd. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth ddatblygu arbenigedd.

Pam y Gyfraith ar Waith gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio dulliau addysgu a dylunio'r cwricwlwm, gan sicrhau bod eich dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.

Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn darparu'r cyfleoedd gorau posibl i chi lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac ystod o weithgareddau allgyrsiol.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd.

Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • Un o’r 125 o Adrannau Gorau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd The Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)
  • Ymhlith y 101-150 o brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

Eich Profiad o'r Gyfraith ar Waith gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae ein rhaglen Y Gyfraith ar Waith yn rhoi pwyslais cryf ar eich arfogi â'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol. Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith.

Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu ystod eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyniad llafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau aml-ddewis, sy'n nodwedd allweddol o'r SQE, yn sicrhau ymhellach eich bod wedi'ch paratoi ar gyfer gofynion proffesiynol cyfoes.

Yn ogystal â'ch Blwyddyn mewn Ymarfer, mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch roi cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.

Mae'r LLB Y Gyfraith ar Waith wedi'i strwythuro i roi cyflwyniad trylwyr i chi i sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, wrth greu'r hyblygrwydd sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau a'ch uchelgeisiau chi, a all gynnwys ystod o sectorau oherwydd amrywiaeth y modiwlau sydd ar gael.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio modiwlau gorfodol sy'n cwmpasu sylfeini'r gyfraith. Mae'r ail flwyddyn yn cynnwys modiwlau gorfodol pellach, ochr yn ochr â dau fodiwl dewisol sy'n eich galluogi i ddechrau teilwra'ch astudiaethau. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gyfan gwbl ar leoliad mewn lleoliad cyfreithiol addas.

Erbyn y bedwaredd flwyddyn, mae'r rhaglen bron yn gwbl ddewisol, gyda'r gallu i ddewis o amrywiaeth eang o fodiwlau arbenigol sy'n cwmpasu ystod amrywiol o feysydd. Erbyn hyn, byddwch wedi astudio'r holl bynciau sylfaenol a bydd gennych yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud y gorau o'ch modiwlau dewisol.

Os ydych chi'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer. Bydd y Flwyddyn Sylfaen (lefel 3) yn cael ei chyflwyno gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe ar Gampws y Bae. Bydd blynyddoedd 2-4 (lefelau 4-6) yn cael eu cyflwyno gan Ysgol y Gyfraith ar Gampws Singleton.

Os hoffech gwblhau LLB 3 blynedd heb flwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen y cwrs LLB Anrhydedd Sengl.

Cyfleoedd Cyflogaeth y Radd Y Gyfraith ar Waith gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio gyda chyflogadwyedd wrth ei gwraidd. Byddwch yn cael cyfle i feithrin sgiliau ymarferol mewn ymchwil gyfreithiol, eiriolaeth a negodi, yn ogystal â chyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar drwy gymryd rhan mewn seminarau a dysgu drwy brofiad.

Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth.

Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr.

Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi mewnwelediadau gyrfa amhrisiadwy i chi, ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn.

Mae graddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o rolau yn y proffesiwn cyfreithiol, gan gynnwys fel cyfreithwyr, bargyfreithwyr, swyddogion gweithredol cyfreithiol, a rolau ym myd busnes, elusennau a'r sector cyhoeddus. Mae cyrchfannau graddedigion nodweddiadol eraill yn cynnwys:

  • Yr heddlu
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Awdurdodau lleol a'r Gwasanaeth Sifil
  • Y sector ariannol
  • Adnoddau Dynol
  • Elusennau a chyrff anllywodraethol

Mae gan y rhaglen LLB Y Gyfraith ar Waith hanes profedig o gyflwyno addysg o safon sy'n eich paratoi â'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i gyflawni eich uchelgais gyrfaol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Y Gyfraith ar Waith gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)