Bydd Thomas Spriggs, myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno ei ymchwil ffiseg yn Senedd y DU, i banel llawn beirniaid arbenigol a gwleidyddion, fel un o’r ymgeiswyr yn rownd derfynol STEM for Britain 2022.
Mae'r Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol yn cynnal y digwyddiad blynyddol unigryw mewn cydweithrediad â nifer o sefydliadau gwyddonol, dysgedig a phroffesiynol uchel eu parch. Mae'n dangos yr ymchwil wyddonol orau a gynhelir yn y DU gan ymchwilwyr gyrfa gynnar a dyma'r unig gystadleuaeth genedlaethol o'i bath.
Mae Thomas yn un o nifer o gystadleuwyr cryf yn sesiwn Ffiseg y gystadleuaeth, sy'n cael ei noddi a'i chefnogi gan y Sefydliad Ffiseg, Sef corff proffesiynol a chymdeithas ddysgedig ffiseg yn y DU ac Iwerddon.
Mae poster Thomas yn disgrifio sut mae'n ceisio datgelu dealltwriaeth well o esblygiad y bydysawd.
Er mwyn gwneud hyn, mae'n astudio rhywbeth o'r enw plasma cwarc-glwon (QCP).
Mae gwyddonwyr yn credu i’r QCP hynod hwn, sy'n bodoli ar dymereddau uchel iawn yn unig – tua thriliwn gradd Celsius – deyrnasu yn y bydysawd am ychydig filiynfed ran o eiliad ar ddechrau ei fodolaeth.
Er bod llawer o bobl wedi clywed am brotonau a niwtronau mewn gwersi strwythur atomig yn yr ysgol, mae'r rhain yn cael eu ffurfio mewn gwirionedd o ronynnau llai o'r enw cwarciau, a ddelir ynghyd gan ronynnau o'r enw glwonau. Ac ar driliwn Celsius, mae cwarciau a glwonau yn toddi ac yn creu plasma cwarc-glwon. Ar ddechrau'r bydysawd – sef y Glec Fawr – roedd y bydysawd yn llawn QCP.
Mae dau le yn unig yn y bydysawd lle rydym yn gwybod bod QCP yn cael ei greu heddiw – arbrawf y Peiriant Gwrthdaro Ïonau Trwm Perthynolaidd (RHIC) yn Nhalaith Efrog Newydd a'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr yn y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN), Genefa.
Mae Thomas yn defnyddio'r dulliau mwyaf cyfoes o efelychu gronynnau er mwyn deall yn well yr hyn sy'n digwydd pan gaiff cwarciau eu cynhesu i driliwn gradd a dysgu mwy am ddatblygiad y bydysawd.
Bydd goblygiadau pwysig i arbrofion parhaus RHIC a CERN yn deillio o ganlyniadau ei ymchwil.
Gan siarad am ei ddiddordeb mewn cyflwyno cais, meddai: “Mae cyfathrebu â chynulleidfa ehangach yn eich gorfodi i graffu ar bob cam eich ymchwil. Rhaid i chi wirio pob manylyn yn llawn a sicrhau eich bod wir yn deall y cwbl cyn ei esbonio. Ond yn gyfnewid am hynny, cewch y cyfle i edrych ar y gwaith rydych wedi bod yn ei wneud a meddwl, ‘Rwy'n cael dweud wrth bobl am gynnwys y bydysawd cynnar,’ ac yna mae'r ymdrech yn ymddangos yn werthfawr.”
Meddai Stephen Metcalfe AS, Cadeirydd y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol: “Mae'r gystadleuaeth flynyddol hon yn ddyddiad pwysig yn y calendr seneddol, gan ei bod yn rhoi'r cyfle i aelodau seneddol weld gwaith ystod eang o ymchwilwyr ifanc gorau'r wlad. Gwyddonwyr, peirianwyr a mathemategwyr gyrfa gynnar fel y rhain yw penseiri ein dyfodol, a STEM for BRITAIN yw cyfle gorau ein gwleidyddion i gwrdd â nhw a deall eu gwaith.”
Bydd academyddion blaenllaw'n beirniadu'r gystadleuaeth. Bydd enillydd y fedal aur yn derbyn £1,500, bydd enillwyr y fedal arian a'r fedal efydd yn derbyn £1000 a £750 yn ôl eu trefn.
Caiff y gystadleuaeth ei beirniadu yn Senedd y DU ddydd Llun 7 Mawrth.