Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio pecyn adnoddau digidol newydd ar gyfer plant rhwng 9 ac 11 oed a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu am ddiwydiant copr rhyngwladol bwysig Abertawe wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
Mae'r adnodd, sydd ar gael yn y Saesneg a'r Gymraeg, wedi cael ei lunio ar y cyd gan ymchwilwyr o'r brifysgol, ymgynghorydd ar addysg greadigol ac athrawon ysgol gynradd.
Ar un adeg, roedd Gweithfeydd Copr yr Hafod-Morfa yng Nghwm Tawe Isaf wrth wraidd y chwyldro diwydiannol. Erbyn 1850, roedd 11 o weithfeydd copr mawr wedi cael eu sefydlu ar lannau Afon Tawe, ac am gyfnod buont yn cynhyrchu mwy na hanner allbwn copr wedi'i fwyndoddi'r byd cyfan. O ganlyniad i bwysigrwydd y diwydiant hwn, roedd Abertawe'n cael ei hadnabod fel ‘Copropolis’.
Dirywiodd y diwydiant yn yr ugeinfed ganrif, a dim ond ambell adeilad sydd ar ôl i gynnig tystiolaeth o bwysigrwydd Abertawe i stori'r diwydiant byd-eang hwn. Ers mwy na degawd, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu rhaglen ymchwil, ennyn diddordeb y gymuned ac adfywio a arweinir gan dreftadaeth mewn cysylltiad â diwydiant copr y ddinas.
Meddai Dr Alex Langlands, uwch-ddarlithydd mewn hanes sydd wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Abertawe yn ystod cam adfywio'r safle dros y chwe blynedd diwethaf: “Wrth i Abertawe gychwyn ar raglen adfywio a arweinir gan dreftadaeth, mae'n hollbwysig ein bod yn ceisio cynnwys cenedlaethau'r dyfodol yn y broses a'u paratoi i barhau â'r gwaith cydweithredol ardderchog sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd rhwng partneriaid cyhoeddus, preifat a chymunedol. Mae'r pecyn addysg hwn yn dechrau'r broses honno drwy gynyddu ymwybyddiaeth o orffennol cyfoethog y ddinas ac annog dulliau creadigol ac ystyriol o ddatblygu hynny ymhellach.”
Bu Copperopolis – Prosiect Treftadaeth CA2 yn bosib o ganlyniad i gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae'r adnodd yn cynnwys:
- Gweithgareddau dosbarth cyfan
- Treialon tîm
- Ffilmiau
- Tasgau datrys problemau
- Heriau gwneud penderfyniadau
Meddai'r Athro Hanes Louise Miskell, cyd-awdur Swansea Copper: A Global History: “Wrth i fwy o flynyddoedd fynd heibio ers diwedd y cyfnod pan fu Abertawe ar ei hanterth fel 'Copropolis', bydd llai o bobl yn y dref sydd ag atgofion byw am yr hanes hwn y gallant eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau nad yw plant yn cael eu hamddifadu o ymdeimlad o bwysigrwydd hanesyddol Abertawe fel canolfan ddiwydiannol, a dealltwriaeth o'r ffordd y gwnaeth copr ddylanwadu’n fawr ar y dref.”
Ychwanegodd Dr Tracy Breathnach Evans o Brifysgol Abertawe: “Mae'r prosiect hwn wedi cael ei dreialu'n hynod lwyddiannus, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r athrawon a'r disgyblion sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwnnw yn 2021 i greu adnodd digidol sy'n addysgiadol, yn ddeniadol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Rydyn ni wrth ein boddau i allu cynnig yr adnodd hwn i bob ysgol gynradd yn Abertawe a'r tu hwnt. Mae'r prosiect hwn wedi dangos y rôl y gall prifysgolion ei chwarae wrth helpu i lywio'r cwricwlwm newydd mewn ysgolion, drwy wreiddio ymchwil o'r radd flaenaf mewn profiadau dysgu sydd wedi'u dylunio'n greadigol.”
Gellir cyflwyno cais am becyn adnoddau Copperopolis – Prosiect Treftadaeth CA2 drwy e-bostio Tracy Breathnach Evans.