A allai hyd bysedd rhywun awgrymu pa mor sâl y gallai fod ar ôl dal Covid-19?
Cydnabyddir yn eang fod bys modrwy hwy'n dynodi lefelau uwch o destosteron cyn geni, a bod mynegfys hwy'n dynodi lefelau uwch o estrogen. Yn gyffredinol, mae gan ddynion fysedd modrwy hwy, ond mae gan fenywod fynegfysedd hwy.
Mae Prifysgol Abertawe'n cyfrannu at ymchwil newydd sy'n archwilio'r cysylltiad rhwng lefelau o hormonau rhyw yn y groth ac yn ystod y glasoed a derbyniadau i'r ysbyty oherwydd Covid-19.
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dal y feirws yn dioddef o symptomau ysgafn yn unig. Fodd bynnag, o ran cleifion y mae angen iddynt gael gofal yn yr ysbyty, mae'r cyfraddau'n amrywio yn ôl oedran (effeithir fwyaf ar yr henoed) a rhyw (effeithir yn fwy difrifol ar ddynion na menywod).
O ganlyniad i hyn, mae gwyddonwyr yn archwilio'r cysylltiad rhwng testosteron ac achosion difrifol o Covid-19 yn agosach. Mae un ddamcaniaeth yn cysylltu testosteron uchel ag achosion difrifol ond mae un arall yn dangos cysylltiad rhwng dynion hŷn â lefelau isel o destosteron a rhagolygon gwael.
Mae'r Athro John Manning, o'r tîm ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM), bellach wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Feddygol Lodz yng Ngwlad Pwyl ac Ysbyty Athrofaol Karolinska yn Sweden i edrych yn agosach ar gymarebau bysedd (cymarebau'r ail, y trydydd, y pedwerydd a'r pumed bys) fel rhagfynegyddion symptomau Covid-19 difrifol.
Arsylwodd yr ymchwilwyr fod cleifion â bysedd bach byr “benywaidd” o'u cymharu â'u bysedd eraill yn tueddu i ddioddef o symptomau Covid-19 difrifol, gan arwain at gael eu derbyn i'r ysbyty, ac yn bwysicach na hynny fod gwahaniaethau mawr rhwng cymarebau 2D:4D a 3D:5D y llaw dde a'r llaw chwith yn cynyddu'n sylweddol debygolrwydd rhywun o gael eu derbyn i'r ysbyty.
Mae'r canfyddiadau rhagarweiniol hyn newydd gael eu cyhoeddi yn Scientific Reports.
Meddai'r Athro Manning: “Mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod achosion difrifol o Covid-19 yn gysylltiedig â thestosteron isel ac o bosib estrogen uchel mewn dynion a menywod.
“Mae gwahaniaethau ‘benywaidd’ rhwng cymarebau bysedd cleifion sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty'n cefnogi'r farn bod unigolion â thestosteron isel ac/neu estrogen uchel yn tueddu i ddioddef yn ddifrifol o Covid-19. Gall hyn esbonio pam mai'r grŵp sy'n wynebu'r perygl mwyaf yw dynion hŷn.
“Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd os yw'n bosib nodi'n fwy manwl gywir pwy sy'n debygol o ddioddef yn ddifrifol o Covid-19, byddai hyn yn helpu i glustnodi brechiadau. Gall gwahaniaethau rhwng cymarebau bysedd y llaw dde a bysedd y llaw chwith (a 2D:4D a 3D:5D yn benodol) helpu yn hyn o beth.”
Ar hyn o bryd, mae sawl treial o gyffuriau gwrthandrogenau (testosteron) i drin Covid-19. Fodd bynnag, mae diddordeb hefyd mewn testosteron fel cyffur gwrthfeirol yn erbyn Covid-19.
Ychwanegodd: “Mae ein hymchwil yn helpu i ychwanegu at ein dealltwriaeth o Covid-19 a gall ddod â ni'n agosach at wella'r arlwy o gyffuriau gwrthfeirol, gan ein helpu i fyrhau hyd arosiadau yn yr ysbyty a lleihau cyfraddau marw.”
Dywedodd yr Athro Manning y byddai gwaith y tîm bellach yn parhau: “Mae'r sampl yn fach ond mae'r gwaith parhaus wedi cynyddu'r sampl. Rydyn ni'n gobeithio adrodd am ragor o ganlyniadau cyn bo hir.”
Amlygodd ei waith blaenorol yn y maes sut mae hyd bysedd plant yn gysylltiedig â lefel incwm mamau ac yn dangos tueddiad i gael clefydau sy'n dechrau yn y groth.
Datgelodd ymchwilwyr dan arweiniad yr Athro Manning ei bod hi'n bosib bod mamau ag incwm isel yn benyweiddio eu plant yn y groth drwy addasu eu hormonau, a bod mamau ag incwm uchel yn gwryweiddio eu plant.