Mae daearyddwraig o Abertawe wedi dychwelyd o'r Amason yn ddiweddar ar ôl casglu data allweddol am goed anferth dros 80 metr o uchder, a ddarganfuwyd yn gyntaf gyda'i chymorth hithau yn 2018. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae llywodraeth y dalaith ym Mrasil wedi ymrwymo i gyhoeddi Bil i'w gwarchod hwythau a'u hamgylchoedd.
Mae Dr Jackie Rosette yn rhan o dîm o Frasil a'r DU a ganfu'r chwe choeden anferth – hyd at 88.5 metr o uchder – gyntaf, gan ddefnyddio laserau yn yr awyr i gynnal arolygon. Roedd y darganfyddiad yn anhygoel gan nad ystyrid cyn hynny fod yr Amason yn gallu cynnal coed mor fawr.
Yr Amason yw'r goedwig drofannol fwyaf ar y Ddaear, gan gwmpasu 5.5 miliwn o gilometrau sgwâr. O'r holl garbon sy'n cael ei storio gan lystyfiant ledled y byd, mae 17% yn cael ei gadw yn yr Amason.
Ar ddiwedd 2021, cychwynnodd Dr Rosette a'i chydweithwyr ar daith ymchwil i ranbarth dwyreiniol yr Amason i gyrraedd y coed – drwy dirwedd hynod anodd – gyda'r nod o gasglu data amdanynt yn y maes.
Gyda chymorth aelodau o ddwy gymuned yn y goedwig, llwyddodd yr ymchwilwyr i gyrraedd eu targed, sef un o'r cewri: coeden sydd dros 83 metr o uchder, yr un uchaf ond dwy ymysg y rhai a ganfuwyd gyntaf yn 2018.
Enw gwyddonol y goeden yw Dinizia excelsa (Angelim vermelho yn lleol) ac mae'r ymchwilwyr yn amcangyfrif ei bod rhwng 4,000 a 5,000 oed. Gan fod y mwyafrif o ddeiliach y canopi oddeutu 45 metr o uchder, mae'r cewri hyn yn sefyll ymhell uwchben y coed cyfagos.
Cyfunodd gwaith y tîm dechnegau arolygon maes traddodiadol, megis mesur dimensiynau'r goeden, y coed cyfagos a'r dirwedd, a chymryd samplau o'r pridd o'i chwmpas, â defnyddio'r technolegau diweddaraf i gasglu data. Lansiodd yr Athro Pedro Anderson ddrôn drwy fwlch yng nghanopi'r goedwig i arsylwi ar frig y goeden wrth iddi ymddangos, a defnyddiodd Dr Rosette sganiwr laser llaw i gasglu data adeileddol am y goeden a'i chynefin.
Canfuwyd bod y coed anferth yn gyfrifol am gyfran sylweddol o'r biomas yn eu hardal gyfagos. Mae hyn yn golygu bod gan yr unigolion hyn gyfrifoldeb pwysig am storio carbon eu cynefin – amcangyfrifir bod hynny rhwng 60 a 70% o'r carbon lleol.
Felly, mae eu cadwraeth, sicrhau eu bod yn parhau i oroesi a chydnabyddiaeth o'u rôl yn sylfaenol i'n brwydr ein hunain yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Yn ogystal â chasglu data gwyddonol hollbwysig, llwyddodd y daith i gyflawni un o'i nodau eraill hefyd, sef cynyddu ymwybyddiaeth o'n cyfrifoldebau am yr amgylchedd unigryw hwn a sicrhau statws gwarchodedig ar gyfer y coed anferth.
Cafodd eu hymchwil sylw helaeth yn y cyfryngau ym Mrasil a chynhaliwyd cyfarfodydd rhyngddynt a nifer o swyddogion y llywodraeth yn ystod eu hamser yn y wlad. Arweiniodd hyn at ymrwymiad ysgrifenedig gan Weinyddiaeth Gyhoeddus Talaith Amapá i argymell cyhoeddi Bil i warchod y coed anferth a'r ardaloedd o'u cwmpas, gan roi statws “Heneb Genedlaethol” iddynt. Defnyddir canlyniadau ymchwil y tîm fel tystiolaeth i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon.
Gwyliwch: cafodd yr ymchwil sylw helaeth yn y cyfryngau ym Mrasil
Roedd cyfranogiad aelodau o gymunedau'r goedwig yn hanfodol wrth sicrhau llwyddiant y daith, wrth i'r tîm cymorth lleol gynnig arbenigedd a gwybodaeth am y goedwig, ei pheryglon a'i hadnoddau. Mae'r tîm bellach yn gobeithio sefydlu sylfaen ymchwil yn y rhanbarth i'w defnyddio gan wyddonwyr, a fyddai'n cynnig swyddi a chyfleoedd incwm i aelodau'r cymunedau sy'n cynorthwyo ymchwil a phrosiectau yn y dyfodol.
Mae taith ymchwil arall i'r rhanbarth yn yr arfaeth ar gyfer 2022, gyda'r nod o gyrraedd y goeden dalaf, sydd dros 88 metr o uchder ac sy'n sefyll mewn tirwedd sydd hyd yn oed yn fwy anghysbell a heriol.
Meddai Dr Jackie Rosette, Cymrawd Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe.
“Roedd wir yn anhygoel sefyll yn syfrdan o dan y cawr a ganfuwyd yn ein gwaith dadansoddi, ac yn gyffrous bod yn y brif goedwig yng nghanol sŵn bywyd yn yr Amason!
Mae'r data gwyddonol a gasglwyd gennym yn hollbwysig wrth wella ein dealltwriaeth o'r coed anferth, eu cynefin a'u rôl flaenllaw wrth ddal a storio carbon.
Un o gyflawniadau mawr ein taith oedd ymrwymiad llywodraeth y dalaith i ddefnyddio ein canfyddiadau er mwyn helpu i bennu statws gwarchodedig i'r coed a'u hardaloedd cyfoes. Dyma ganlyniad gwych. Mae'n dangos sut gall ymchwil gael effaith uniongyrchol ar y materion pwysicaf y mae'r byd yn eu hwynebu.
Roedd ein taith yn ymdrech go iawn gan dîm, dan arweiniad un o'm cydweithwyr, yr Athro Eric Gorgens. Cymerodd chwe ymchwilydd ag arbenigedd ategol ran yn yr ymdrech, gan weithio'n agos gyda chymunedau'r goedwig a oedd yn meddu ar wybodaeth bersonol am goedwig yr Amason. Mae gwarchod yr Amason a'i choed anferth yn hollbwysig i ni i gyd. Rwy'n falch bod fy ymchwil yn rhan o'r darganfyddiad pwysig a chyffrous hwn.”
Daw'r Athro Eric Bastos Gorgens o Universidade Federal dos Vales do Jequitinhonha e Mucuri. Daw'r Athro Pedro Anderson, uwch-ymchwilydd arall o Frasil, o Instituto Federal do Amapá.