Llun o'r grŵp o fyfyrwyr a gyflwynodd eu syniadau busnes yn ystod cystadleuaeth The Big Pitch.

Cafodd syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd hwb mawr yng nghystadleuaeth flynyddol The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi'i noddi gan Santander Universities.

Nod The Big Pitch, a gynhaliwyd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers dwy flynedd, yw helpu myfyrwyr i fagu sgiliau gwerthfawr a rhoi eu syniadau ar waith.

Cyflwynodd 19 o fyfyrwyr entrepreneuraidd 14 o syniadau gwahanol i banel o feirniaid uchel eu bri, a ddyfarnodd fwy na £10,500 i bedwar busnes newydd.

Cafodd yr holl fyfyrwyr eu mentora a dyfarnwyd lleoedd i bedwar busnes ar raglenni cyflymu pwrpasol a luniwyd gan y Tîm Mentergarwch mewn cydweithrediad â sefydliadau cenedlaethol.

Rhoddwyd tair munud yr un i'r myfyrwyr er mwyn cyflwyno eu syniadau i'r beirniaid: Ben Reynolds, Sylfaenydd Urban Foundry a'r cwmni cyntaf yng Nghymru i ennill statws B-Corp; Nicholas Davies, Rheolwr Cysylltiadau Santander Universities; Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe; Kelly Jordan, Uwch-swyddog Mentergarwch y Tîm Mentergarwch; a James Hughes, Prif Weithredwr Vedra Partners.

Roedd y busnesau'n amrywio o bowlenni smwddis acai iach, technoleg bobi wedi'i phatentu a dyluniadau pwrpasol gan fyfyrwyr, i siopau planhigion a rhoddion, gwasanaethau ymgynghori myfyrwyr a mwy.

Cyn eu cyflwyniadau, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdai a drefnwyd gan Dîm Mentergarwch Prifysgol Abertawe, sy'n rhan o'r Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS), a gynigiodd gyngor ar ddatblygu eu syniadau a'u cyflwyno'n effeithiol.

Meddai Dan Eedy, myfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Reolaeth a sylfaenydd Kiwi: “Roedd The Big Pitch yn gyfle gwirioneddol wych i hyrwyddo fy musnes newydd i gynulleidfa, rhywbeth nad oeddwn i wedi'i wneud cyn hynny.

“Roedd yn ddiddorol dysgu am amrywiaeth o fusnesau newydd eraill wrth iddynt gyflwyno eu syniadau nhw, ac wrth gael cyfle i rwydweithio yn ystod y digwyddiad.

“Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i dderbyn cyllid a bydd hynny o fudd mawr i mi wrth brynu cyfarpar hanfodol a fydd yn galluogi fy musnes i dyfu'n gyflymach na'r disgwyl.

“Rwy’n edrych ymlaen at weini powlenni smwddi blasus ac iach yn Abertawe ac ymhellach i ffwrdd yn ystod y misoedd nesaf.”

Dywedodd Kelly Jordan, yr Uwch-swyddog Mentergarwch, ei bod hi'n falch bod y gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth: “Ar ôl dwy flynedd heriol i bob busnes, rydyn ni eto wedi cael ein syfrdanu gan ansawdd a safon y syniadau a'r modelau busnes a gyflwynwyd yn ystod The Big Pitch.

“Mae'r holl fyfyrwyr a gymerodd ran wedi bod yn destun balchder i Brifysgol Abertawe, gyda cheisiadau o bob un o'r tair cyfadran yn cwmpasu'r holl flynyddoedd astudio.

“Mae ein myfyrwyr yn profi bod Prifysgol Abertawe'n sefydliad gwirioneddol entrepreneuraidd.”

Meddai Dr Ben Reynolds, un o feirniaid The Big Pitch a sylfaenydd Urban Foundry: “Roeddwn i wrth fy modd bod yn feirniad i The Big Pitch eto. Roedd rhai syniadau gwych a llawer o bobl dalentog i'w gweld!”

Mae Tîm Mentergarwch Prifysgol Abertawe'n yn gyfrifol am ddogfen "Entrepreneuriaeth Myfyrwyr: Ein Hymagwedd Strategol 2018-2023".

Dysgwch sut gallwch gael gafael ar gymorth gan y Tîm Mentergarwch.

Rhannu'r stori