Mae prosiect ymchwil â’r nod o ddod ag economi wirioneddol gylchol un cam yn agosach wedi derbyn grant ymchwil gwerth £1.2m gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (ESPRC).
Bydd y prosiect tair blynedd, sef TReFCo (Adfer Thermol Caenau Gweithredol), yn dechrau ym mis Ebrill. Bydd yn ymchwilio i ddulliau ailgylchu thermol ar gyfer caenau gweithredol ac yn datblygu gludyddion sy'n sensitif i donfeddi ac a fydd yn 'dadlynu' o dan fathau penodol o belydriad.
Esboniodd Dr Jenny Baker, sy'n arwain y prosiect, pam mae angen yr ymchwil: “Pan gaiff dyfeisiau megis cyfrifiaduron, ffonau clyfar a batris eu hanfon i gael eu hailgylchu, ni chaiff yr holl ddeunyddiau eu dal er mwyn eu defnyddio mewn dyfeisiau newydd.
“Defnyddir deunyddiau prin a drud yn aml i wneud caenau arbenigol sy'n galluogi ein dyfeisiau electronig modern i weithio. Fodd bynnag, gall y caenau hyn achosi problemau o ran ailgylchu ac ni chaiff y deunyddiau eu hadfer bob amser. Yn hytrach na hynny, cânt eu llosgi er mwyn cynhyrchu ‘gwres o wastraff’. Mae hyn yn golygu bod y caenau drud sydd wedi'u peiriannu'n helaeth yn cael eu colli heb wireddu eu gwerth.
“Mae gludyddion yn aml yn gwneud ein ffonau'n ddwrglos ac yn sicrhau bod cynhyrchion electronig yn para'n hwy, ond o ran ailgylchu'r cynhyrchion hyn, mae’n anodd datod y cynhyrchion oherwydd y gludyddion. Byddai gludyddion sy'n sensitif i donfeddi'n gwneud y broses hon yn haws.”
Nod TReFCo yw datblygu dull rhad o dynnu'r caenau hyn fel y gellir eu hailddefnyddio i wneud dyfeisiau newydd. Bydd sawl budd yn deillio o hyn. Bydd yn golygu y cedwir deunyddiau crai gwerthfawr yn y gadwyn gyflenwi, gan helpu economi'r DU. Bydd hefyd yn golygu bod y deunyddiau sy'n dal y caenau'n lanach cyn iddynt gael eu hailgylchu, gan sicrhau y caiff cynnyrch mwy pur ei greu o’r broses ailgylchu, a hynny'n rhatach.
Ymgymerir â dadansoddiad o gylch bywyd a fydd yn sicrhau bod ymchwilwyr yn deall yn llawn yr effaith amgylcheddol sy'n deillio o gynhyrchu deunyddiau a'u hailgylchu. Bydd hwn yn nodi unrhyw feysydd sy'n niweidiol i'r amgylchedd er mwyn peidio â'u defnyddio wrth ddylunio deunyddiau neu drwy newid y dulliau prosesu.
Dyma brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Birmingham, Keeling & Walker, Precision Varionic, Deregallera, Tata Steel, Grŵp adphos, Elemental Inks & Chemicals, WRAP a Plug Life Consulting.
Meddai Dr Gavin Harper o Brifysgol Birmingham: “Rydyn ni’n ystyried cynnal cymariaethau technolegol-economaidd manwl rhwng technoleg TReFCo a thechnolegau ailgylchu eraill sydd ar gael. Rydyn ni’n credu y gallai proses TReFCo gynnig llawer o fanteision drwy fod yn broses sych, ynni isel a fydd yn addas at rai dibenion ailgylchu.”
Meddai Dr Pete Curran, Pennaeth Deunyddiau Deregallera Ltd: “Mae'r dechnoleg alluogi allweddol y mae ei hangen i hwyluso'r broses o ailgylchu celloedd batris ar raddfa fawr yn broses ar gyfer adfer deunyddiau electrodau gweithredol heb gael effaith fawr ar yr amgylchedd. Mae ailgylchu celloedd ar diwedd eu hoes yn hanfodol i leihau'r allyriadau eq-CO2 sy'n cael eu corffori yn ein cynhyrchion, rhywbeth sydd o bwys mawr i Deregallera a defnyddwyr terfynol ein technoleg batris.”
Ychwanegodd Dr Kai K.O. Bär, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp adphos: “Mae Grŵp adphos yn croesawu'r cyfle i gefnogi'r tîm hwn sy'n flaenllaw'n fyd-eang wrth hyrwyddo'r economi gylchol a thechnolegau CO2 isel/heb CO2 drwy ddefnyddio dull is-goch agos datblygedig adphos.”