Dathlodd Prifysgol Abertawe gyflawniadau tri enillydd cyntaf erioed Gwobr y Canghellor yn ystod seremonïau graddio a gynhaliwyd yn Arena Abertawe yr wythnos hon.
Mae'r wobr newydd yn cydnabod staff a myfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at fywyd, enw da neu effaith y Brifysgol, ac roedd y thema eleni'n canolbwyntio ar rôl Prifysgol Abertawe fel hyrwyddwr treftadaeth a diwylliant yng Nghymru.
Un o'r ddau enillydd yng nghategori'r staff eleni oedd tîm o Academi Hywel Teifi, sef sefydliad unigryw a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er mwyn darparu canolfan ragoriaeth ar gyfer astudio'r iaith Gymraeg, hyrwyddo addysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg a sicrhau statws uwch i'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yn ne-orllewin Cymru.
Cyflwynwyd Gwobr y Canghellor i aelodau'r tîm – Lauren Evans, Dr Gwenno Ffrancon, Lynsey Thomas a Saran Thomas – i gydnabod eu gwaith i sefydlu GwyddonLe yn gadarn fel atyniad hynod lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Bob blwyddyn, ym mhafiliwn GwyddonLe, mae tîm Academi Hywel Teifi yn dod ag academyddion a myfyrwyr Abertawe o ddisgyblaethau gwyddoniaeth a thechnoleg ynghyd i wahodd pobl ifanc a'u teuluoedd i brofi cyffro'r darganfyddiadau diweddaraf, cynnal arbrofion gwyddonol a chlywed am brofiadau amrywiol staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Mae GwyddonLe yn gyfraniad diwylliannol unigryw at Gymru gan Brifysgol Abertawe; dyma'r unig arlwy gwyddonol o'i fath yn yr Eisteddfod a arweinir gan brifysgol ac mae ei raglenni'n denu oddeutu 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, cryn sylw yn y cyfryngau a chefnogaeth llawer o sefydliadau eraill.
Enillydd arall Gwobr y Canghellor eleni yng nghategori'r staff oedd Dr Alex Langlands, Uwch-ddarlithydd mewn Hanes yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, am y prosiect: Copper Crucibles: Art, Chemistry and Heritage in the Swansea Valley.
Deilliodd y prosiect hwn o'r diddordeb newydd yn nhreftadaeth copr Abertawe a'r ymchwil ddilynol gan sawl academydd o Abertawe. Mae'n cyfuno arbenigedd hanesydd (Dr Langlands), artist cerameg lleol (Esther Ley) a chemegydd o Brifysgol Abertawe (Dr Ian Mabbett).
Mae cloddfeydd ar safle Gwaith Copr Morfa wedi dadorchuddio nifer o grwsiblau ceramig bach, a oedd wedi cael eu defnyddio wrth brofi cynnwys y copr yn ystod y broses fwyndoddi, gan roi sglein lliwgar atyniadol iddynt. Dyma sail y prosiect: archwilio proses rhydocs lliwiau cemeg; cynhyrchu replicâu creadigol; a datgelu treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal.
Mae'r prosiect traws-sector hwn yn elwa o gefnogaeth ysgolion a grwpiau cymunedol lleol; Crisis, yr elusen i bobl ddigartref; cwmnïau archaeoleg a threftadaeth; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (a fu'n arddangos y ‘crwsiblau copr’ a wnaed gan y rhai a gyfranogodd yn y rhaglen, o Crisis a grwpiau eraill, dros gyfnod o chwe wythnos), a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Trydydd enillydd Gwobr y Canghellor ar gyfer 2022 oedd Grug Muse, yng nghategori'r myfyrwyr. Mae Grug yn fyfyriwr ymchwil sy'n gweithio yn Adran y Gymraeg yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ac sydd wedi cael ei chefnogi gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Abertawe, mae Grug wedi creu ei gwaith academaidd ei hun ac ysgrifennu barddoniaeth a ganmolwyd yn fawr, yn ogystal â chyfrannu'n sylweddol at weithgarwch i hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg, yn lleol ac yn rhyngwladol.
Mae Grug yn fardd nodedig a chyffrous, sydd eisoes wedi cyhoeddi dwy gyfrol o'i gwaith ei hun. Ym mis Gorffennaf eleni, roedd yn fuddugol yn y categori barddoniaeth Gymraeg yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru am ei chasgliad Merch y Llyn. Fel cyd-sylfaenydd a chyd-olygydd Cyhoeddiadau'r Stamp, sef gwasg Gymraeg, mae wedi llwyddo i feithrin ac ysgogi lleisiau newydd, gan roi hwb newydd i lenyddiaeth Gymraeg a'r byd llenyddol ehangach. Drwy ddau gylchgrawn, sef yr un gwreiddiol, Y Stamp, ac yn fwy diweddar Ffosfforws, mae Grug wedi rhoi'r cyfle i leisiau ifanc ac amrywiol eraill i ddatblygu, magu hyder a chyhoeddi eu gwaith.
Wrth gyflwyno'r gwobrau eleni, meddai'r Athro Fonesig Jean Thomas, y Canghellor: “Mae llawer o gydweithwyr a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyfrannu'n sylweddol at dreftadaeth a diwylliant yng Nghymru dros y blynyddoedd. Yn wir, dyna union genhadaeth nifer o'n hacademyddion uchaf eu bri drwy gydol eu bywydau proffesiynol.
“Roedden ni'n gwybod y byddai'n anodd dewis enillwyr gwreiddiol y wobr hon, ac roedd hynny'n wir heb os nac oni bai. Fodd bynnag, rwy'n hyderus bod yr enillwyr eleni yn dangos brwdfrydedd go iawn am ddiwylliant a threftadaeth Cymru drwy eu gwaith ac, yn bwysig, maen nhw wedi ysbrydoli a darparu cyfleoedd i genhedlaeth newydd sbon.”
Bydd Gwobr y Canghellor y flwyddyn nesaf ar thema cynaliadwyedd.