Dyfarnwyd cyllid gwerth £322,000 i dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn datblygu ffyrdd digidol o leihau diffygion mewn gwaith adeiladu sy’n cynnwys concrit.
Mae arbenigwyr yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gweithio gyda thri sefydliad blaenllaw yn y diwydiant adeiladu er mwyn mynd i'r afael â'r achosion o oedi sylweddol a'r costau mawr sy'n deillio o ddiffygion mewn gwaith adeiladu mawr sy’n cynnwys concrit.
Nod y prosiect yw datblygu adnoddau meddalwedd newydd a chyfrannu at ganllawiau diwydiannol i wella cymysgeddau concrit, dyluniadau adeileddol a phrosesau adeiladu a fydd yn arwain at welliant o ran effeithlonrwydd ac ansawdd, datblygu mwy cynaliadwy a chostau llai.
Meddai'r Athro Chenfeng Li, arweinydd y prosiect:
“Mae diffygion adeileddol amrywiol yn parhau mewn cysylltiad â llif concrit ffres, gan brofi'n gostus iawn i'r diwydiant. Mae'r diwydiant peirianneg sifil ac adeiladu ar y cyd yn cydnabod bod angen mynd i'r afael ar frys â'r diffygion costus sy'n deillio o waith sy’n defnyddio concrit ar raddfa fawr. Mae'r broblem a'r heriau technegol cysylltiedig yn berthnasol i'r gadwyn gyflenwi gyfan, o ddylunwyr adeileddol ac adeiladwyr i gynhyrchwyr concrit.
“Nod ein hymagwedd gydweithredol yw cyfuno arbenigedd academaidd mewn modelu cyfrifiadurol ag arbenigedd y diwydiant i ddod o hyd i ateb drwy waith modelu rhifyddol a thechnoleg meddalwedd. Er enghraifft, datblygu adnodd meddalwedd prototeip ar gyfer efelychu llif concrit ffres, gan ystyried technegau megis dull trémie o osod concrit danddwr gan ddefnyddio pibell fertigol islaw lefel y dŵr.
“Yn y pen draw, bydd effaith hyn yn lliniaru risg diffygion adeiladu mewn perthynas â choncrit ffres, a'r gwaith cywiro dilynol sy'n arwain at gostau mawr ac oedi sylweddol wrth gyflawni prosiectau. Bydd y cyfraniad allweddol hwn at ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang, ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer buddsoddi a chydweithredu rhanbarthol yn y dyfodol a fydd yn cefnogi cynhyrchiant ac adfywio economaidd wedi pandemig Covid.”
Mae'r prosiect yn gydweithrediad ag Arup, cwmni ymgynghori peirianyddol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang; LUSAS, datblygwr meddalwedd dadansoddi peirianyddol blaenllaw; a'r EFFC (European Federation of Foundation Contractors).
Meddai Chris Harnan o'r EFFC:
“Bu'r gwaith modelu rhifyddol a wnaed yn y gorffennol gyda Phrifysgol Abertawe wrth baratoi ein canllawiau ynghylch trémie yn hwb mawr i'n dealltwriaeth o batrymau llif y concrit wrth ddefnyddio'r dull hwnnw. Bydd y prosiect hwn yn gwella ymhellach ein dealltwriaeth ac yn cynnig cipolwg ar dechnegau uwch newydd.”
Meddai Chris Barker, Cyfarwyddwr Cyswllt gydag Arup:
“Mae manylebau gosod seilbyst y diwydiant yn y DU wedi datblygu gofynion concrit trémie ar sail profiad hanesyddol. Mae angen adolygu'r manylebau hyn bellach gan ddefnyddio dulliau rhifyddol, megis y rhai a ddarperir gan Brifysgol Abertawe drwy'r prosiect SMART Expertise.”
Meddai Paul Lyons, Rheolwr Gyfarwyddwr LUSAS:
“Mae LUSAS wedi datblygu offer efelychu soffistigedig ar gyfer adeileddau concrit, gan gynnwys llif oer (creep), cilio ar ôl sychu (shrinkage), ymddygiad concrit yn gynnar yn ei oes a chracio, ac yn y prosiect hwn ein nod yw ehangu ein gwasanaethau modelu i gynnwys ymddygiad concrit ffres. Yn y maes hwn y mae problemau sy'n gysylltiedig â diffygion wedi peri pryder a cholledion mawr yn y diwydiant adeiladu.”
Ariennir y prosiect SMART Expertise gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru).
Gweithgynhyrchu clyfar - ymchwil Abertawe