Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi ymweld â phrosiect £130 miliwn Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn deall mwy am sut bydd y datblygiad cyffrous hwn yn hybu arloesi a thwf busnes yn sectorau cynyddol Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon.
Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) a phartneriaid allweddol yn y sector preifat, mae'r prosiect Campysau yn esiampl berffaith o gydweithio rhwng busnesau, academia a'r llywodraeth. Mae'r prosiect yn rhoi pwyslais ar y sectorau gwyddor bywyd, iechyd a llesiant, a chwaraeon, ac yn cael ei gyflawni mewn dau gam ar ddau safle, yn Singleton a Threforys yn Abertawe. Bydd y prosiect yn creu dros 1,000 o swyddi ac mae'n werth mwy na £150m i'r economi ranbarthol dros y 10 mlynedd nesaf.
Fel rhan o bortffolio'r Fargen Ddinesig o naw prosiect a rhaglen, mae'r prosiect Campysau wedi sicrhau £15m o gyllid gan y llywodraeth ac wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2021.
Bydd cam un, a fydd yn defnyddio cyllid y Fargen Ddinesig, yn darparu 2000m2 o ofod ymchwil ac arloesi pwrpasol ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe. Bydd hyn yn sefydlu amgylchedd sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu, profi a gwerthuso technolegau meddygol, iechyd, llesiant a chwaraeon, yn ogystal â phartneriaethau masnachol. Bydd hefyd yn cynnwys adnewyddu adeilad presennol yn Ysbyty Treforys, lle bydd Sefydliad Gwyddorau Bywyd 700m2 ar gyfer cydweithio masnachol ac academaidd ochr yn ochr ag ymchwil a datblygu clinigol.
Pan fydd y cam cyntaf wedi'i gwblhau, bydd yn datgloi'r potensial i ddatblygu ac ehangu'r ddau safle yn sylweddol dros y degawd nesaf, a fydd yn ategu lle blaenllaw'r rhanbarth ym meysydd iechyd, chwaraeon, a gwyddoniaeth, ac yn ysgogi datblygiad economaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
"Rydym yn falch i groesawu Vaughan Gething AS i Brifysgol Abertawe i'w ddiweddaru ynghylch y prosiect Campysau cyffrous, a'r trawsnewid rhyfeddol sy'n digwydd ar hyd a lled Abertawe.
“Bydd y prosiect Campysau yn creu dros 1,000 o swyddi â chyflog da yn y sector gwyddor bywyd ac iechyd, a fydd yn rhoi hwb i'r economi ac yn helpu i ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol. Ynghyd â'r synergedd o ran prosiect Pentre Awel yn Llanelli, bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar ein harbenigedd mewn llesiant ac arloesi clinigol, trwy helpu i atal afiechyd a gwella ansawdd bywyd ledled y rhanbarth.”
Ychwanegodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething:
"Roedd yn wych ymweld â Phrifysgol Abertawe i glywed mwy am sut bydd y buddsoddiad sylweddol ni'n ei wneud fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwella ymhellach rôl flaenllaw Cymru o ran technolegau meddygol uwch a gwyddoniaeth.
“Mae pwyslais clir gan Lywodraeth Cymru ar greu dyfodol economaidd cryfach, tecach, a gwyrddach. Rydym am i Gymru fod yn wlad sydd yn arwain y ffordd wrth arloesi mewn technolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau bob dydd.
“Rydym yn hyderus bydd y prosiect newydd cyffrous hwn yn ein helpu i gyflawni'r uchelgais honno drwy gefnogi busnesau i fanteisio ar gysylltiadau â'r byd academaidd, gan eu helpu i ddod ag ymchwil sy'n flaengar ar lefel fyd-eang allan o'r labordai a diwydiant ac i gymdeithas, a fydd yn fuddiol i'n pobl a'n heconomi.”
Meddai'r Athro Keith Lloyd, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:
"Credwn fod prosiect Campysau yn enghraifft wych o sut gall buddsoddi yn y sector cyhoeddus ysgogi twf enfawr yn y sector preifat.
“Yn y gorffennol mae'r Brifysgol wedi bod yn amlwg o ran dod ag academyddion, y GIG a phartneriaid diwydiannol at ei gilydd i gefnogi twf mewn cwmnïau technoleg feddygol. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar y cryfderau hynny er mwyn ysgogi maes twf arbenigol yn Abertawe yn y sector technoleg chwaraeon, a fydd yn gwella iechyd a chyfoeth y gymuned ranbarthol.”
Yn ôl Mark Hackett, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
"Ni ellir tanbrisio gwerth ymchwil a datblygiad i'r economi iechyd yn rhanbarth Bae Abertawe.
“Nid yn unig y mae hyn yn denu swyddi a buddsoddiad o safon i'r ardal, ond mae'n creu cyfleoedd cyffrous i staff a chleifion fod ar flaen y gad mewn datblygiadau cyffrous a thriniaethau arloesol.
“Fel bwrdd iechyd rydym yn falch iawn o allu darparu rhan allweddol o'r prosiect hwn ar ein safle yn Ysbyty Treforys, gan ddod â'r ymchwil flaengar hon i ganol gofal iechyd.”