Derbyniodd yr Athro Faron Moller (ar y chwith) Cyfarwyddwr Technocamps, y Wobr ar ran Technocamps.

Derbyniodd yr Athro Faron Moller (ar y chwith) Cyfarwyddwr Technocamps, y Wobr ar ran Technocamps.

Mae Technocamps wedi’i enwi’n enillydd Gwobr Arferion Gorau mewn Addysg 2022 Informatics Europe.

Mae Technocamps, a leolir ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhaglen allgymorth STEM a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda hybiau ym mhob prifysgol ar draws y wlad. Ei phrif nod yw gwella sgiliau digidol plant ac oedolion yng Nghymru ac mae bellach wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei harferion addysgol arloesol.

Wedi'i threfnu gan Informatics Europe a'i noddi gan Microsoft, cyflwynwyd y Wobr Arferion Gorau mewn Addysg mewn seremoni arbennig ar 25 Hydref 2022, yn ystod y 18fed Uwchgynhadledd Cyfrifiadureg Ewropeaidd yn Hamburg, yr Almaen.

Eleni, mae’r wobr wedi anrhydeddu Technocamps fel menter addysgol ragorol sy'n ymroddedig i addysgu'r gweithlu ar gyfer y trawsnewid digidol.

Derbyniodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps, y Wobr ar ran Technocamps.

Yn ystod ei gyflwyniad buddugol, meddai’r Athro Moller:

“Mae gan Gymru boblogaeth wedi’i gwasgaru dros ardal eang. Mae ganddi ddaearyddiaeth arw ac ychydig iawn o ffyrdd cyflym; ac mae gan ei hysgolion uwchradd ddalgylch cyfartalog o dros 100 cilomedr sgwâr.

Gyda Technocamps, rydym wedi goresgyn yr heriau hyn ac wedi sefydlu ffordd effeithiol o ymgysylltu â’r gwahanol gymunedau yng Nghymru a’u huwchsgilio. Rydym yn darparu gweithdai llawn ysbrydoliaeth i bobl ifanc a datblygiad proffesiynol mawr ei angen i’w hathrawon, ac mae pawb yn elwa o gyfleoedd sy’n mynd i’r afael â’r problemau symudedd cymdeithasol a all ddeillio o arwahanrwydd daearyddol.

Rydym yn hynod falch o gael cydnabyddiaeth i’n hymdrechion gan y wobr fawreddog hon gan Informatics Europe, ac yn gobeithio y gall rhanbarthau eraill yn Ewrop sy’n wynebu heriau tebyg elwa o’n profiadau.”

Wrth longyfarch Technocamps, meddai’r Athro Jean-Marc Jézéquel (IRISA/Prifysgol Rennes, Ffrainc), Is-lywydd Informatics Europe ac aelod o’r Pwyllgor Gwobrwyo eleni:

“Ar gyfer y Wobr eleni, mae’r holl gynigion a gyflwynwyd wedi derbyn gwerthusiadau da iawn gan aelodau’r Pwyllgor Gwobrwyo, ond cafodd yr enillydd, Technocamps, ei werthuso’n unfrydol yn y lle cyntaf.

Mae ymdrechion Technocamps i ysgogi’r gwaith o ddiwygio addysg Gwybodeg ar draws Cymru gyfan wedi gwneud argraff arbennig ar y Pwyllgor. Heb os, mae Technocamps yn haeddu’r teitl ‘Arferion Gorau mewn Addysg’.”

Meddai Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae’r gydnabyddiaeth o waith Technocamps fel menter addysgol ragorol sy’n ymgysylltu â gwahanol gymunedau ledled Cymru ac yn gwella eu sgiliau yn rhywbeth i'w ddathlu, ac rwy’n eu llongyfarch ar ennill y wobr hon. Drwy fynd i’r afael ag effaith diffyg cyrhaeddiad trwy fentrau fel hyn, gallwn gefnogi pob dysgwr i wireddu ei uchelgeisiau.”

Meddai Dr Evelyne Viegas, Uwch-gyfarwyddwr Ymgysylltu Ymchwil Byd-eang Microsoft Research:

“Mae Microsoft yn cael ei ysbrydoli’n barhaus gan yr enwebiadau cryf a dderbyniwyd ar gyfer Gwobr Arferion Gorau mewn Addysg Informatics Europe. Gyda chenhadaeth Technocamps i feithrin sgiliau digidol cynaliadwy, rydym yn gobeithio y bydd y Wobr yn annog sefydliadau i ddechrau ymdrechion tebyg a chefnogi ymagwedd amlddisgyblaethol at ddysgu gydol oes ac addysg mewn Gwybodeg”.

Rhannu'r stori