Mae’r ffyrdd arloesol y mae’r sector cyhoeddus yn Ne Cymru’n mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd wedi’u hamlygu mewn cynhadledd a drefnwyd gan yr arbenigwyr economi gylchol.
Fe wnaeth Cynhadledd Hydref CAEG – Cefnogi dyfodol cynaliadwy Cymru, o dan arweinyddiaeth y tîm Cymunedau Arloesi Economi Gylchol ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ddenu cynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol.
Dywedodd cyfarwyddwr prosiect CAEG, Dr Gary Walpole, fod gan y rhaglen rôl hanfodol i’w chwarae wrth helpu i symud Cymru tuag at economi gylchol.
Dywedodd: “Rydym yn creu cymunedau sy’n cefnogi gweithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i ddatblygu prosesau ac atebion newydd sy’n gweithredu egwyddorion economi gylchol.
“Rydym yn cysylltu 14 carfan ar draws De Cymru i helpu sefydliadau i ddysgu gyda’i gilydd ac oddi wrth ei gilydd. Mae’r carfannau hyn wedi datblygu’n gymunedau ymarfer economi gylchol y gwnaethom eu cysylltu â’i gilydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r ecosystem arloesi ranbarthol.
“Un elfen o’r hyn rydyn ni’n ei wneud i ddatblygu’r ecosystem ranbarthol yw cynhadledd CAEG.’’
Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd yr economi gylchol wrth fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd, dysgu cymdeithasol, cymunedau ymarfer ac atebion arloesol drwy gydweithio. Darparodd hefyd arddangosfa ar gyfer mentrau sy’n cael eu darparu gan gyfranogwyr CAEG yn y sectorau gwasanaeth cyhoeddus yn rhanbarthau Bae Abertawe a Dinas Caerdydd.
Fe wnaeth yr araith gyweirnod gan Etienne a Bev Wenger-Trainer, arbenigwyr enwog ym maes dysgu cymdeithasol, bwysleisio pwysigrwydd dod o hyd i lais ac ennill dylanwad strategol trwy gyflwyno strategaethau cymuned ymarfer.
Rhannodd cyfranogwyr CAEG eu heriau tîm cydweithredol a oedd yn cynnwys edrych ar dirweddau ôl-ddiwydiannol a nodi’r angen am adnodd asesu i nodi’r cylch oes nesaf ar gyfer yr amgylcheddau hyn.
Cyflwynodd Hayley Richards, o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, her ei thîm ar ddatgarboneiddio a phwysleisiodd yr angen i greu newid sefydliadol.
Fe wnaeth Faye Ward, o Dŵr Cymru, a Natalie Burton-Dudley, o Cyfoeth Naturiol Cymru, gyflwyno ffocws eu grŵp her ar ansawdd dwr a’u syniadau ar gyfer gwella’r systemau monitro ansawdd dwr yng Nghymru.
Clywodd y cynrychiolwyr hefyd gan John Eden-Holt, o OVO Energy, a dysgu mwy am eu cynllun sero net i gyflwyno newid ymddygiad i’w gweithlu a’u cymunedau drwy eu hadnodd e-ddysgu mynediad agored, Plan Zero.