Uchafbwyntiau Ein Hymchwil
- Cafwyd cynnydd yn y GPA cyffredinol o 3.36 i 3.40 (cynnydd o 4 pwynt) o gymharu â 2014
- Ystyrir bod 93% o'r allbynnau'n 4 seren a 3 seren
- Mae 90% o'r amgylchedd ymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol
- Mae 83.3% o effaith ein hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol
- Cynnydd o 158% mewn incwm ymchwil o gymharu â REF2014
- Cynnydd o 81% yn nifer y graddau PhD a ddyfarnwyd ers REF2014
Dywedodd yr Athro Kirsti Bohata:
"Mae canlyniad REF2021 yn gadarnhad o’n hymchwil sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol ledled llenyddiaeth, iaith ac ysgrifennu creadigol. Rydym wrth ein bodd i gael ein cydnabod am ansawdd ein hallbynnau, ac am effaith ein hymchwil sy’n rhoi lle blaenllaw i greadigrwydd, cydraddoldeb ac amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt."
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw darparu ymchwil o'r radd flaenaf sy'n rhyngwladol ragorol ac sy'n cynhyrchu buddion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.
Ein Hamgylchedd
Mae ein cymuned ymchwil yn cyfuno arbenigedd cyd-weithwyr yn yr adrannau Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Iaith Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a hynny wedi'i drefnu o amgylch canolfannau ymchwil sy'n adnabyddus yn eang, gan gynnwys Llenyddiaeth Saesneg Cymru, Anabledd a Dyniaethau Iechyd, Rhywedd, Ieithyddiaeth Corpws, Dysgu Iaith ac Ysgrifennu Creadigol . Mae ein hymchwil yn gydweithredol, yn rhyngddisgyblaethol ac yn gysylltiedig. Mae gennym gymuned gref o ddefnyddwyr ymchwil, o'r diwydiannau creadigol a sefydliadau celfyddydau, i ysgolion a llywodraethau cenedlaethol.
Ein Hallbynnau
Mae cyflawniadau ymchwil o bwys yn ystod cyfnod y cyfrifiad yn adlewyrchu rolau arweiniol ein hymchwilwyr mewn ymchwil gydweithredol a rhyngddisgyblaethol. Mae'r rhain yn cynnwys cwblhau Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC), cyhoeddi rhifyn digidol mynediad agored o lythyrau Elizabeth Montague (1718-1800), a chyhoeddi'r gyfrol nodedig, Cambridge History of Welsh Literature.
Ein Heffaith
Mae ein hymchwil: yn llywio polisïau iaith, addysg, digidol a diwylliannol yng Nghymru a thramor; yn darparu ysbrydoliaeth a ffynonellau newydd ar gyfer ymarferwyr y celfyddydau, cwmnïau cynhyrchu a chyhoeddwyr; yn cynhyrchu cynnwys newydd ar gyfer y teledu a'r radio, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan sbarduno gwybodaeth newydd a dadl ddiwylliannol. Mae'n cyfrannu at ddealltwriaeth gyhoeddus ehangach ac yn llywio gwelliannau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae cydweithredu a chreu ar y cyd â defnyddwyr ymchwil a'r rheiny sy'n elwa ohoni yn allweddol, fel y dangosir yn ein Hastudiaethau Achos Effaith:
Ein Cymuned
Dewch i gwrdd â'n staff Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg a'n cymuned ôl-raddedig