Uchafbwyntiau Ein Hymchwil
- Ystyrir bod ein hamgylchedd ymchwil yn 100% ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sydd o ansawdd rhagorol yn rhyngwladol.
- Ystyrir bod 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol, sy'n gynnydd o 67.4%.
- Ystyrir bod ansawdd ein hallbynnau ymchwil yn arwain y byd, yn rhagorol yn rhyngwladol, neu yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.
- Cafodd 40.9% o'n hallbynnau ymchwil sgôr o 4*, sy'n gynnydd o 32.1%.
- Cynyddodd yr incwm ymchwil 158%.
- Cafwyd cynnydd o 81% yn nifer y graddau PhD a ddyfarnwyd.
“Rydym yn ymfalchïo mewn darparu amgylchedd ymchwil sy'n arwain y byd i greu'r amodau i ragoriaeth ddisgyblaethol a syniadau ar gyfer ymchwil ffynnu. Mae gweld hyn yn cael ei gydnabod yng nghanlyniadau REF2021 yn gydnabyddiaeth wych o'r holl waith caled sydd wedi cyfrannu at ein llwyddiant.”
- Dr Geraldine Lublin, Arweinydd Uned Asesu 26
“Mae twf ymchwil ym maes ieithoedd modern, ieithyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Abertawe hefyd yn cael ei amlygu trwy'r cynnydd sylweddol yn y cyllid ymchwil a nifer y graddau PhD a ddyfernir. Mae ein cyflawniadau yn REF2021 yn arwydd o'r cyfraniad pwysig y mae ein hymchwilwyr yn ei wneud yng Nghymru a thu hwnt.”
- Yr Athro Tudur Hallam, Arweinydd yr Uned Asesu
Ein Gweledigaeth
Trwy ragoriaeth mewn ymchwil, ein huchelgais yw gwneud gwahaniaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang wrth i ni ddatblygu offer iaith blaengar, newid amgylcheddau iaith, a grymuso cymunedau i ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol.
Ein Hamgylchedd
Rydym yn gymuned ffyniannus sydd ag arbenigeddau ymchwil ar draws ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys polisi iaith, ieithyddiaeth gymhwysol, cyfieithu, llenyddiaeth, astudiaethau ffilm a theatr, astudiaethau diwylliannol ac ysgrifennu creadigol. Mae ein cwmpas ieithyddol yn cynnwys arbenigwyr mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Pwyleg, Arabeg a'r Gymraeg, yn ogystal ag amlieithrwydd.
Ein Hallbynnau
Er 2014, mae ein hymchwilwyr wedi cynhyrchu dros 120 o gyhoeddiadau, gan gynnwys llyfrau wedi'u hawduro a monograffau arbenigol, yn ogystal ag erthyglau mewn cyfnodolion clodfawr, penodau mewn llyfrau, a chyfrolau wedi'u golygu. At hynny, rydym hefyd wedi cyfrannu at sawl cyfeirlyfr, ac mae llawer o'n hadnoddau a'r setiau data sy'n sail i'r gwaith ar gael ac i'w canfod yn rhad ac am ddim trwy nifer o ystorfeydd mynediad agored.
Ein Heffaith
Mae ein hymagwedd ryngddisgyblaethol at ymchwil, a'n hymrwymiad i gydweithio â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol wedi galluogi cryfderau ymchwil craidd mewn polisi iaith ac astudiaethau diwylliannol i gael effaith fawr, wrth i brosiectau groestorri ar draws Ieithoedd Modern, y Gymraeg, Ieithyddiaeth Gymhwysol a'r Dyniaethau Digidol. Ceir tystiolaeth o enghreifftiau o'n hymagwedd yn ein hastudiaethau achos, ‘(Re)Discovering Europeans’ Visions of Wales’ a ‘Reversing Language Shift in Wales’. Mae'r naill a'r llall wedi cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru, sef 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg', ac yn cefnogi amlieithrwydd fel y darlunnir yn strategaeth 'Dyfodol Byd-eang' Llywodraeth Cymru.
Ein Cymuned
Dewch i gwrdd â'n staff Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth a'n Cymuned Ôl-raddedig