Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw darparu ymchwil seicolegol drosiadol o'r radd flaenaf i ddeall problemau'n well a nodi atebion o bwysigrwydd cymdeithasol, ac i lywio dadl seiliedig ar bolisi a newid deddfwriaethol.
Ein Hamgylchedd
Mae ein dealltwriaeth o brosesau seicolegol a'n cymuned ymchwil ffyniannus yn seiliedig ar ddwy thema ymchwil eang: Niwrowyddoniaeth Wybyddol a Seicoleg Glinigol, Iechyd a Fforensig. Mae hyn wedi ein harwain i fod yn ganolfan o ragoriaeth mewn ymchwil ryngddisgyblaethol a gefnogir gan ein hagosrwydd ffisegol at bartneriaid allweddol ym meysydd Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd.
Ein Hallbynnau
Mae ein hymchwil yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyfryngau ar-lein, teledu a phrint. Er enghraifft, yn ystod y cyfnod adolygu mae ein hymchwil wedi ymddangos ar y rhaglen Charlotte Church – Inside My Brain (BBC, 2018), ar raglen ddogfen Click for Murder (2017) ar CBC/Netflix, ar raglen Through the Wormhole with Morgan Freeman (2014) ar The Discovery Channel, ac mewn nifer o eitemau newyddion radio a theledu, mewn papurau newydd, ac ar wefannau newyddion. Mae ein staff yn ymddangos yn rheolaidd ar raglenni newyddion ac mewn rhaglenni dogfen lleol y BBC ac ITV, ac yn ymgysylltu â defnyddwyr ymchwil a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb, a hynny trwy lwyfannau ar-lein.
Ein Heffaith
Nod ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg yw cael effaith ar iechyd a llesiant trwy drin cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol cyffredin mewn modd arloesol, a hyrwyddo ymyriadau newydd a gynlluniwyd i hybu llesiant y boblogaeth. Rydym yn sicrhau dealltwriaeth empirig o'r effaith ar gymdeithas a pholisi mewn meysydd sy'n amrywio o wyddor llesiant, gordewdra a maeth, i gamblo a chaethiwed ymddygiadol, seicoleg fforensig a chlinigol, niwroddelweddu a gwybyddiaeth.
Gwella Asesiad Canlyniadau mewn achosion o Niwed Caffaeledig i'r Ymennydd – Prifysgol AbertaweGwella Cymorth Seicolegol ar gyfer Straen sy'n Gysylltiedig ag Iechyd – Prifysgol AbertaweCymorth Seicolegol i Hybu Ffisiotherapi ar gyfer Camweithrediad Llawr y Pelfis – Prifysgol Abertawe
Ein Cymuned
Cwrdd â Staff yr Ysgol Seicoleg a'r Gymuned Ôl-raddedig