Mae i-Lab Abertawe (Yr Lab Arloesi) wedi’i leoli yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae’n cynnwys casgliad o ganolfannau, themâu, grwpiau ac unigolion sy’n archwilio ymchwil ac arloesi yn yr ystyr ehangaf.
Mae'r Ganolfan i-Lab yn ceisio datblygu gwell dealltwriaeth o arloesedd, rheolaeth, a'i ddylanwad ar ddefnyddwyr, gweithwyr, dinasyddion, sefydliadau, marchnadoedd a chymdeithas. Mae’r gwaith yn mabwysiadu safbwyntiau ansoddol a meintiol a gellir ei gategoreiddio i adlewyrchu diddordebau aelodau ar dair lefel wahanol: cymdeithasol, sefydliadol ac unigol (dinesydd/defnyddiwr).
Mae gweithgareddau Ymchwil ac Arloesedd o fewn i-Lab yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o gyd-destunau, yn cael eu gweld trwy lens o ddatblygiad arloesi, mabwysiadu, trylediad, cynaliadwyedd ac effaith. Mae'r ymagwedd at arloesi yn gydweithredol, gan ganiatáu i ni weithio'n fewnol ar brosiectau gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Reolaeth, y Brifysgol ehangach, a phartneriaid allanol.