Bay Campus
David Grant Pickernell

Yr Athro David Pickernell

Athro mewn Polisi Datblygu Busnesau Bach a Menter, Business

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
225
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae David yn Athro Polisi Datblygu Busnesau Bach a Menter yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, yn aelod o’r Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol a’r Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth, ac yn gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Mae wedi ymgymryd â gwaith i’r Ffederasiwn Busnesau Bach, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth Queensland, Llywodraeth Fictoria (Awstralia), Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Caerdydd, Cyngor Ynys Wyth, Cyngor Bwrdeistref Fareham, y Cyngor Benthycwyr Morgeisi, Associated British Ports , Ymddiriedolaeth Shaw, Colegau Cymru ac Enterprise Educators UK.

Fe wnaeth ei waith yn 2018 i’r Ffederasiwn Busnesau Bach, ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Portsmouth a Women’s Enterprise Scotland, amlygu pwysigrwydd cynyddol busnesau bach a berchenogir ac a reolir gan fenywod yn y DU, a chafodd sylw eang yn y cyfryngau.

Mae wedi ysgrifennu dros 100 o erthyglau wedi’u safoni gan ganolwyr mewn cyfnodolion, yn ymwneud â datblygu busnesau bach a menter, a pholisi datblygu economaidd yn fwy cyffredinol, ac mae wedi cefnogi myfyrwyr doethurol ar bynciau sy’n cynnwys y brifysgol entrepreneuraidd, y felltith adnoddau, a’r patrymau trefedigaethol mewnol yng nghyd-destun economi Cymru, a rôl rhyngweithiadau rhwng Prifysgolion a Busnes mewn systemau gwybodaeth ac effeithiau ar dwf ac arloesedd cwmnïau. 

Rwy’n oruchwylydd doethurol hynod brofiadol gyda bron ugain wedi’u cwblhau. Rwyf ar gael am oruchwyliaeth ddoethurol ym meysydd sy’n ymwneud â rheoli busnesau bach, a pholisi datblygu menter.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwytnwch Busnesau Bach
  • Cyllid Busnesau Bach
  • Polisi Datblygu Menter
  • Prifysgolion Entrepreneuraidd
  • Strategaethau Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor
  • Ecosystemau Datblygu Economaidd Rhanbarthol
  • Rhwydweithiau arloesi
  • Entrepreneuriaeth Menywod
  • Clystyru

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Arloesedd ac Entrepreneuriaeth.
  • Rheoli Menter
  • Datblygu Economaidd
Ymchwil Prif Wobrau