Trosolwg
Mae Emily Bacon yn Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth. Cwblhaodd ei PhD mewn Rheoli Busnes yn 2020. Mae Emily yn ymchwilio i gyfnewid gwybodaeth a chydweithredu mewn ecosystemau arloesi, gan gymhwyso technegau dadansoddol megis Dadansoddi Cymharol Ansoddol set niwlog (fsQCA) at astudio partneriaethau rhwng sefydliadau. Mae ei chanfyddiadau wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion o fri rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid ac maent wedi cael eu cyflwyno mewn cynadleddau academaidd blaengar.
Mae Emily yn addysgu ar y rhaglen MSc mewn Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (yn Seiliedig ar Werth), sy'n rhan o raglen Academi Dysgu Dwys (ILA) Llywodraeth Cymru. Mae ganddi ddiddordeb mewn defnyddio dysgu sy’n seiliedig ar achosion i helpu dysgwyr i gymhwyso egwyddorion yn seiliedig ar ddamcaniaeth at broblemau ymarferol. Mae hi wedi ysgrifennu llawer o astudiaethau achos sy'n dangos sut i gymhwyso egwyddorion iechyd a gofal yn seiliedig ar werth. Mae'r achosion hyn wedi cael eu cyhoeddi gan The Case Centre.
Mae gan Emily dystysgrif ôl-raddedig ac mae'n Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch. Mae hi'n angerddol am greu amgylcheddau dysgu cynhwysol i'w myfyrwyr. Mae hi wrthi'n chwilio am fyfyrwyr PhD sydd â diddordeb mewn archwilio perthnasoedd rhwng sefydliadau ar draws rhwydweithiau arloesi, yn benodol wrth gymhwyso fsQCA.