bay campus image
Dr Tegwen Malik

Dr Tegwen Malik

Athro Cyswllt
Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
322
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Uwch-ddarlithydd yw Tegwen Malik yn yr Ysgol Reolaeth ac mae'n uwch gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA). Mae gan Dr Malik sawl maes diddordeb ymchwil ac addysgu - Deallusrwydd Artiffisial (AI), Safonau Rhyngwladol, Dadansoddeg ar gyfer Busnes, Digideiddio a Rheoli Gweithrediadau.

Mae gan Dr Malik sawl rôl yn yr Ysgol Reolaeth, sef Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen MSc Rheoli (a llwybrau);  Arweinydd Strategol Chwaraeon (ac yn aelod o lif gwaith dysgu ac addysgu Chwaraeon y Brifysgol); Cyd-arweinydd Mathemateg ac Ystadegau; Cyfarwyddwr Addysg a Chynnwys Canolfan Ymchwil i-Lab ac arweinydd thema "Heriau Byd-eang a Chymdeithasol" y ganolfan; Arweinydd Ôl-raddedig y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI).  Mae gan Dr Malik RPA UKAT (Ymarferydd Cydnabyddedig mewn Cynghori) ac mae'n aseswr gydag UKAT ar y fframweithiau proffesiynol ar gyfer cynghori a'r cynllun tiwtora yn y sector addysg uwch.

Mae gan Dr Malik brofiad ymarferol o reoli a chyflawni prosiectau'n lleol, yn genedlaethol, yn drawswladol ac yn rhyngwladol. Mae wedi bod yn rhan o lunio, mapio a chostio dyluniad prosesau sydd eu hangen wrth fynd â chynnyrch i'r farchnad, yn enwedig atebion sy'n torri tir newydd ynghyd â chydlynu a goruchwylio prosiectau ymchwil a diwydiant cydweithredol.   Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cyfuno'n llwyddiannus ddiddordebau academaidd yn y gwyddorau a rheolaeth ynghyd ag ymchwil a chymhwyso’n ymarferol mewn diwydiant. Ei ffocws presennol yw maes deallusrwydd artiffisial a goblygiadau hyn i addysg uwch, busnes a sectorau eraill.  Felly mae mabwysiadu technoleg yn faes ymchwil y mae hi'n rhan ohono ar hyn o bryd.

Yn ogystal â hynny, mae gan Dr Malik ddiddordeb penodol mewn arloesi ac ymchwil, yn enwedig pan fydd hynny’n cael ei lywio gan natur ac felly dyma pam y mae ganddi ddiddordeb ym maes  bioddynwarededd.  Mae hi wedi bod yn rhan o ddatblygu ystod eclectig o brototeipiau, yn enwedig pan fyddan nhw'n deillio o drosi canlyniadau labordai miliynau o flynyddoedd o esblygiad natur (gan gynnwys yn sector y gwyddorau bywyd). Mae'r gwaith hwn wedi bod yn amlweddog mewn meysydd megis arfogaeth dryloyw a chasglu dŵr sydd wedi deillio o ymchwil a datblygu (sy'n cynnwys darganfod, gwerthuso ac asesu syniadau er mwyn eu troi'n arloesi a dylunio cynnyrch) o gamau cynnar i fasnacheiddio gan gwmnïau. 

Meysydd Arbenigedd

  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Marchnata Digidol a'r Cyfryngau Cymdeithasol a'u Mabwysiadu
  • Technolegau datblygol ar gyfer busnes a rheoli
  • Safonau Rhyngwladol
  • Mathemateg ac Ystadegau ar gyfer Busnes
  • Rheoli Gweithrediadau
  • Rheoli Dŵr
  • Bioddynwarededd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Gwobr y Papur Ymchwil Gorau yng Nghynhadledd I3E 2023 ym Mrasil. Teitl y papur oedd:

“Exploring the Transformative Impact of Generative AI on Higher Education”