Golwg o Gampws Bae o’r awyr , gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun o Dafydd Cotterell

Mr Dafydd Cotterell

Darlithydd Gweithrediadau a Busnes, Business
322
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Dafydd Cotterell yn ddarlithydd Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Mae’n Ymchwilydd Academaidd brwd ac yn Addysgwr Addysg Uwch. 

Fel Addysgwr Addysg Uwch, mae gan Dafydd Gymrodoriaeth Gysylltiol yr Academi Addysg Uwch. Mae Dafydd yn addysgu amrywiaeth o fodiwlau ar draws yr Ysgol lle mae'n defnyddio arddull addysgu ymarferol. Mae'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod myfyrwyr yn gallu meithrin gwybodaeth a sgiliau ystyrlon a fydd yn eu galluogi i fod yn llwyddiannus yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.  I'r perwyl hwn, mae Dafydd yn cynnwys amrywiaeth o arferion addysgu arloesol yn ei addysgu, gan gynnwys defnyddio senarios/efelychiadau sy'n galluogi myfyrwyr i gael cipolwg ar arferion rheoli go iawn.

Mae Dafydd yn ymchwilydd gyrfa gynnar hefyd, gydag arbenigedd ym maes Gwytnwch Sefydliadol. Mae ei waith ymchwil presennol yn cynnwys gwerthuso profiad busnesau manwerthu bach a chanolig yn ystod argyfwng Covid-19. Mae Dafydd wedi ennill sawl gwobr yn ystod ei amser fel ymchwilydd. Mae hyn yn cynnwys Gwobr Ymchwil nodedig James Callaghan, gwobr gan y Brifysgol sy'n nodi bod ei draethawd ymchwil PhD yn rhagorol. Mae Dafydd hefyd wedi ennill gwobr y Papur Gorau yng ngwobrau Track yng nghynhadledd flynyddol y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth yn 2021.

Mae Dafydd yn agored i ddatblygu cydweithrediadau allanol ar gyfer prosiectau ymchwil a phartneriaethau gyda diwydiant.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Gwytnwch Sefydliadol
  • Rheoli Argyfwng
  • Rheoli Parhad Busnes
  • Safonau Rheoli Rhyngwladol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dafydd yn addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ei addysgu'n canolbwyntio'n bennaf ar feysydd gweithrediadau busnes, strategaeth a dadansoddi data. 

Ymchwil Prif Wobrau