Atriwm mewnol yr Athrofa Gwyddor Bywyd

Dr Daniel Rees

Uwch-ddarlithydd, Business

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cwblhaodd Daniel James Rees ei Ddoethuriaeth mewn niwrowyddoniaeth foleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth  Prifysgol Abertawe yn 2017. Roedd Doethuriaeth Daniel yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau newydd Clefyd Parkinson a Chlefyd Alzheimer er mwyn profi therapiwteg gwrth-niwroddirywiol naturiol a synthetig. Ers hyn, mae Daniel wedi hwyluso’r Brifysgol ar sawl prosiect strategol yn y sector Gwyddor Bywyd drwy reoli gwaith ymchwil a gwaith ymgysylltu â’r diwydiant ar bortffolio o brosiectau cydweithredol academaidd-ddiwydiannol. Roedd hyn yn cynnwys mentrau rhyngwladol. Erbyn hyn mae Daniel yn Dechnolegydd Arloesi  gan weithio i raglen Cyflymu Cymru gyfan drwy Ysgol Reolaeth ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys masnacheiddio ymchwil feddygol, arloesi technoleg a gofal iechyd. Mae’r portffolio hwn o brosiectau’n cwmpasu meysydd fel datblygu ac adleoli Technolegau Dŵr Clyfar a thechnolegau adfer i’r diwydiant fferyllol ac ymgysylltu â’r GIG er mwyn datblygu modelau cydweithredol i weithredu’n llwyddiannus Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.

Meysydd Arbenigedd

  • Niwrowyddoniaeth
  • Arloesi
  • Busnes
  • Arloesi Gofal Iechyd
  • Clefyd Parkinson
  • Niwroamddiffyniad
  • Dadansoddi Bio-ddelweddau