Mae datblygu cwricwlwm sy'n mynd i'r afael â'r angen dybryd am addysg newid yn yr hinsawdd yn hanfodol i rymuso pobl ifanc i ymgysylltu â materion byd-eang. Cynlluniwyd dau brosiect, "You and CO2" a "Cylch Bywyd Fy Nillad," i annog disgyblion, o oedran ysgol gynradd i ysgol uwchradd, i ddeall effaith eu dewisiadau a'u gweithredoedd ar yr amgylchedd ac i ymrwymo i newidiadau ymddygiad sy'n lleihau eu hôl troed carbon.

Mae "You and CO2" yn defnyddio naratif rhyngweithiol a gweithgareddau digidol dwyieithog i ymgysylltu â myfyrwyr 12 i 15 oed, gan eu grymuso i ymgysylltu â'r argyfwng hinsawdd a gweithredu arno ac nid dysgu amdano yn unig. Mae'r rhaglen yn dangos yn benodol y gydberthynas rhwng gweithgareddau dynol bob dydd ac allyriadau CO2, gan ysbrydoli myfyrwyr i wneud dewisiadau mwy ecogyfeillgar.

Mae "Cylch Bywyd Fy Nillad" yn uned drawsgwricwlaidd dwyieithog a grëwyd ar y cyd gan athrawon ysgolion cynradd ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n canolbwyntio ar gynaladwyedd a ffasiwn gyflym, gan alluogi disgyblion i archwilio eu rolau fel dinasyddion Cymru a’r byd a deall sut y gall newidiadau bach yn eu harferion dyddiol effeithio’n gadarnhaol ar eu lles a’r amgylchedd byd-eang.

Mae'r prosiectau hyn yn meithrin ymwybyddiaeth ac ymrwymiad i gynaliadwyedd ymhlith pobl ifanc, gan gyfrannu at yr ymdrech i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Trwy roi problemau byd-eang yn eu cyd-destun mewn persbectif lleol a phersonol, mae’r prosiectau hyn yn hyrwyddo gweithredu gwybodus a dinasyddiaeth gyfrifol yn ôl yr angen yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru a thu hwnt.

Addysg Drawsgwricwlaidd Newid Hinsawdd
logo
logo
logo