Fel llysgennad CyberFirst, mae Sara Correia yn rhan o raglen addysg CyberFirst y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy’n ceisio meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol seiber yn y DU. Mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys cydweithio â chydweithwyr yn Technocamps (Abertawe) a’r Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol (NDEC), cysylltu ag ysgolion a diwydiannau lleol, codi ymwybyddiaeth o’r rhaglen CyberFirst, ac addysgu myfyrwyr am y risgiau a’r cyfleoedd yn y maes seiber. Mae ffocws allweddol ei gwaith yn ymwneud â hyrwyddo gyrfaoedd mewn seiber i ferched a menywod ifanc.

Mae cyfranogiad Sara wedi arwain at amrywiaeth o fentrau, megis cyflwyno sesiynau rhyngweithiol i bobl ifanc, cefnogi ysgolion lleol i gyflawni achrediad CyberFirst, a hyrwyddo clybiau Seiber mewn ysgolion, mewn partneriaeth â thîm addysgu TAR ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r adborth a gafwyd gan gydweithwyr a chyfranogwyr ifanc wedi bod yn hynod gadarnhaol.

Yn ogystal â gweithgareddau swyddogol CyberFirst, mae Sara hefyd wedi datblygu a chyflwyno mentrau allgymorth annibynnol sy'n cyd-fynd ag ethos y rhaglen, gan gynnwys trefnu diwrnodau gweithdai ar gyfer ysgolion cynradd lleol a sesiynau mewn cynadleddau addysgol amrywiol.

CyberFirst