Trosolwg o'r Cwrs
Mae astudio Cymraeg a Chyfryngau yn Abertawe yn rhoi cyfle i chi archwilio cyfoeth ein hiaith, o'r Mabinogi i iaith y Gymru gyfoes a hefyd astudio hanes y cyfryngau, theori, ymarfer a chysylltiadau cyhoeddus.
- Mae gan ein myfyrwyr tiwtor personol sy'n darparu cymorth bugeiliol ac arweiniad ar faterion a allai effeithio ar eu lles, eu presenoldeb a'u datblygiad drwy'r Brifysgol.
Mae'r cyfryngau'n cynnwys llwybrau penodol yn y cyfryngau, ffilm, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth a chyfryngau ymarferol. - Mae'r rhaglen yn cyfuno astudiaeth o hanes, theori ac ymarfer sy'n ymgorffori sgiliau a thechnegau sy'n berthnasol i'r cyfryngau digidol modern, newyddiaduraeth ddigidol, ymarfer digidol creadigol; cynhyrchu fideo; cynhyrchu radio; diwydiannau ffilm a chysylltiadau cyhoeddus.
- Mae'r Gymraeg yn cynnig addysg o'r safon uchaf a gyflwynir gan dîm o staff brwdfrydig a phrofiadol.
- Maint dosbarthiadau bach a mwy o oriau cyswllt.
- Cyfleoedd ariannu trwy astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith.
- Astudiwch gyfoeth y Gymraeg a’i llenyddiaeth wrth brofi cyffro'r gymuned Gymraeg yn Abertawe!