Trosolwg o'r Cwrs
Manteisiwch ar eich diddordeb yn y gorffennol drwy astudio hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn datblygu'r sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, wrth archwilio'r cyflwr dynol o'r canol oesoedd i'r presennol.
Mae Hanes a Chymraeg yn archwilio hanes y canol oesoedd, hanes modern cynnar a hanes modern drwy bynciau sy'n cynnwys hanes menywod a rhyw(edd), hanes diwylliannol a hanes crefydd, iechyd a meddygaeth. Byddwch hefyd yn dysgu am hawliau'r Gymraeg, Amlddiwylliannaeth a'r Gymraeg a Llên Gymraeg dros y canrifoedd.
Bydd astudio'r cwrs gradd tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.